Eisteddfod

Submitted by DanEdw on

Cyflwyniad

Roeddem yn falch o noddi Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn Llanrwst.

Nodau llesiant

A Wales of vibrant culture and Welsh Language

Ffyrdd o weithio

Collaboration involvement

2019/20

Braint ac anrhydedd oedd noddi Prifwyl 2019. Cynhaliwyd y digwyddiad wythnos o hyd yn Llanrwst, Dyffryn Conwy, a ddenodd dros 150,000 o bobl.

Dyma ddathliad o iaith a diwylliant y genedl y gellir olrhain ei darddiad yn ôl mor bell â 1176. Gan gwmpasu pob agwedd ar fyd y Pethe yng Nghymru, mae'n rhoi llwyfan i gerddoriaeth, dawns, y celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, a pherfformiadau gwreiddiol ac yn denu miloedd o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn.

Cyfranogiad

Llwyddodd sawl aelod o'n ein tîm i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn Eisteddfod Llanrwst. Yn ystod yr ŵyl, buom yn siarad â'r cyhoedd am ein gwasanaethau ac yn rhannu gwybodaeth am ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol i gadw Cymru i symud drwy ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.

James Price

Prif Swyddog Gweithredol

Rydym yn falch iawn o gael Trafnidiaeth Cymru fel un o noddwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn diolch iddynt am fod yn brif noddwr yn y pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg eleni. Rydym yn ddibynnol ar gymorth ein noddwyr, ac mae cefnogaeth fel hon yn amhrisiadwy ar sawl lefel.

Betsan Moses

Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Rydw i wedi bod yn ymwneud â'r Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd lawer ac rwyf wrth fy modd yn gweld sut mae'n dod â phawb at ei gilydd – digwyddiad gwych i'r teulu cyfan, sydd hefyd yn annog cystadleuaeth, creadigrwydd, hwyl a sbri. Yn 2019, cawsom gyfle gwych i siarad â channoedd o bobl leol ac ymwelwyr am ailagor lein Dyffryn Conwy a thrafod ein dyheadau a'n syniadau.

Lowri Joyce

Rheolwr Rhanddeiliaid