fflecsi - Trafnidiaeth Ymatebol i’r Galw
Nod Llesiant
Mae gan Gymru ddaearyddiaeth unigryw, a gall y ffaith bod pobl ar wasgar ei gwneud yn anodd i wasanaethau trafnidiaeth confensiynol weithredu’n fasnachol mewn rhai ardaloedd. Rydym yn awyddus i wella cysylltedd ar draws pob rhan o Gymru, er mwyn i breswylwyr ac ymwelwyr allu teithio’n fwy cynaliadwy.
Yn wahanol i wasanaeth bws confensiynol, nid yw fflecsi yn galw yn yr un arosfannau bob tro, ond yn lle hynny mae’n stopio pan fydd pobl yn gofyn am gael eu codi a’u gollwng mewn parth penodol. Mae’n defnyddio technolegau arloesol i gynllunio llwybrau sy’n seiliedig ar y teithiau mae pobl eisiau eu gwneud. Mae llwybrau teithio’n cael eu cynllunio ymlaen llaw ac yn cael eu haddasu mewn amser real, i gludo pobl yn ôl ac ymlaen i’r llefydd a nodir yn eu cais.
Rydym nawr yn gweithredu amrywiaeth o fysiau ac yn darparu 11 o wasanaethau fflecsi ledled Cymru ar y cyd â gweithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol. Mae’r gwasanaeth yn darparu tua 25,000 o deithiau bob mis, gan gynnig mwy o gyfleoedd teithio yn lleol i deithwyr mewn ardaloedd peilot.
Ffyrdd o weithio
Rydym hefyd wedi dod â’r ganolfan alwadau fflecsi ddwyieithog yn fewnol. Gan ddelio ag oddeutu 300 o alwadau bob dydd, mae’r tîm wedi cael ei ganmol gan gwsmeriaid am ei brydlondeb ac am ddatrys ymholiadau’n effeithlon.
Mewn mannau fel Rhuthun, roedd gan bobl fynediad at wasanaeth bws am y tro cyntaf erioed. Roedd ein cynlluniau peilot mor llwyddiannus fel eu bod yn cael eu hehangu i gynnwys nifer o bentrefi newydd yn Sir y Fflint, Sir Benfro ac ardal Bwcle. Yn Rhuthun ac ar Benrhyn Llŷn, mae’r gwasanaethau’n rhedeg ar fysiau trydan. Mae’r ehangu’n galluogi mwy o bobl i ddefnyddio’r gwasanaeth ar gyfer teithiau bob dydd a chysylltiadau teithio, gyda chysylltiadau â gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau eraill, gan gynnwys TrawsCymru.
Cynllun peilot Rhuthun oedd yr ail gynllun peilot yn Sir Ddinbych a’r cyntaf yng Nghymru gyfan i gynnwys bws dim gollyngiadau o’r pibellau. Mae’r bws hwn yn gweithredu ar fatri 115kWh gydag chyrhaeddiad o 200km.
Mae fflecsi yn fwy na dim ond gwasanaeth bws arall. Mae’n galluogi pobl i ymgysylltu â gweithgareddau yn eu cymunedau nad ydynt wedi gallu eu gwneud o’r blaen ac mae’n cynnig mwy o ryddid o ran lle gall pobl fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan leihau’r angen i ddefnyddio ceir.
Mae cymuned Dolwyddelan yn ardal LL25 mor falch bod llais ei thrigolion wedi cael ei glywed, ac rydym yn edrych ymlaen at gael gwasanaeth fflecsi. Mae natur wledig a thrafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol os ydym am gael mynediad at waith, gweithgareddau pleser a siopa.
Y Cynghorydd Liz Roberts
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy