Ffynnu
Cyflwyniad
Mae ein Hacademi Brentisiaethau newydd yn cefnogi datblygiad ein prentisiaid ac yn cynnig sgiliau ehangach y gall y prentisiaid eu defnyddio drwy gydol eu gyrfa.
Nod Llesiant
Ffyrdd o weithio
Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau
Yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2021, lansiodd Trafnidiaeth Cymru Academi Brentisiaethau newydd. Mae’r academi yn rhoi i brentisiaid sgiliau ehangach a all ategu eu dewis ddisgyblaeth er mwyn rhoi hwb i’w gyrfaoedd yn y dyfodol a pheri iddyn nhw ffynnu. Yn briodol ddigon, enw’r rhaglen hon yw ‘Ffynnu’.
Rhaglen 12 mis yw Ffynnu, ac mae’n rhoi dull cyfannol ar waith ar gyfer datblygu prentisiaid mewn ffyrdd nad ydyn nhw’n uniongyrchol gysylltiedig â’u harbenigaeth, gan gynnal dosbarthiadau meistr sy’n cynnig sgiliau bywyd a sgiliau datblygu gyrfa i brentisiaid. Caiff dosbarthiadau meistr eu cynnal ddwywaith y mis ac mae pob sesiwn yn para oddeutu awr. Caiff pob dosbarth ei seilio ar sgiliau personol a phroffesiynol, gan gyd-fynd ag un o blith saith nod y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal â diben, gweledigaeth a gwerthoedd Trafnidiaeth Cymru. Nodau’r rhaglen yw galluogi’r prentisiaid i ffynnu a llwyddo.
Er bod y sesiynau wedi’u hanelu at brentisiaid, maen nhw ar agor i gydweithwyr trwy’r sefydliad sy’n awyddus i ymuno â sesiynau a allai fod o ddiddordeb iddyn nhw.
Ffynnu
Caiff y rhaglen Ffynnu ei chynnig i brentisiaid yn Trafnidiaeth Cymru a TrC Rail Cyf. Ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen, mae 20 o brentisiaid yn cymryd rhan ynddi.
Cafodd y rhaglen ei lansio gan Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Rhaglen Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, a gyflwynodd weithdy arweinyddiaeth ar waith. Mae prentisiaid wedi cael cyfle i glywed gan arweinwyr er mwyn deall y siwrnai maen nhw arni. Mae’r arweinwyr hyn yn cynnwys Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Stephen Thomas o’r Council of Shared Interest, Gemma Hallett, cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, a Jane Davidson, cyn-Weinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yng Nghymru, i enwi dim ond rhai. Mae’r pynciau wedi cynnwys lles ariannol, masnach deg, entrepreneuriaeth, ac iechyd meddwl, ymhlith pethau eraill.
Yn ychwanegol at y dosbarthiadau meistr, mae’r rhaglen yn cynnig banc gwybodaeth cynhwysfawr sy’n llawn adnoddau dysgu er mwyn helpu unigolion i wneud yn fawr o’u prentisiaeth. Hefyd, caiff cylchgrawn ei anfon atyn nhw bob mis, ac mae hwn yn cynnig haen ychwanegol o wybodaeth.
Mae’r Academi Brentisiaethau yn gysyniad cefnogol, cyffrous ac ysbrydoledig. Mae’n fy nghynorthwyo i wrth imi ddatblygu fy ngyrfa. Dw i’n edrych ymlaen at y Dosbarthiadau Meistr oherwydd dw i’n dysgu cymaint ynddyn nhw ac yn mwynhau gwrando ar unigolion eraill a’u harbenigeddau. Yn gyffredinol, dw i’n credu bod yr Academi’n werthfawr i mi, oherwydd dw i’n datblygu nid yn unig fel gweithiwr proffesiynol, ond fel unigolyn hefyd.
Georgia Cope
Prentis