Gosodiadau celf mewn gorsafoedd

Submitted by Content Publisher on

Cyflwyniad

Rydym yn defnyddio gosodiadau celf i gynnwys cymunedau yn y gwaith o greu mannau sy’n adlewyrchu treftadaeth leol ar yr un pryd ag atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym wedi gosod gwaith celf mewn 6 gorsaf ledled Cymru ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ehangu hyn i hyd yn oed mwy o orsafoedd.

 

Nod Llesiant

Cohesive communitiesA Wales of vibrant culture and Welsh Language

Mae Trafnidiaeth Cymru eisiau creu ymdeimlad o berthyn yn ein gorsafoedd, gan hyrwyddo diogelwch ger reilffyrdd ar yr un pryd. Mae celf yn rhan bwysig o’r hyn sy’n ein cysylltu ni â’n hamgylchedd, yn ogystal â chadw diwylliannau’n fyw ac yn ffynnu. Mae hefyd yn ffordd dda o gyfleu negeseuon pwysig, yn enwedig ynghylch atal tresmasu ar reilffyrdd.

Mewn cydweithrediad â Phartneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, preswylwyr, ysgolion a sefydliadau trydydd sector, rydym wedi gosod gwaith celf yng ngorsafoedd y Waun, Abertawe, Bae Colwyn, Caergybi, Gogledd Llanrwst a Chonwy.

Mae creu  ymdeimlad o berchnogaeth a balchder wedi bod yn un o nodau allweddol y fenter hon. Yn hytrach na bod yn fan lle mae pobl yn cymudo, drwy gynnwys pobl ifanc, rydym eisiau dod â chymunedau at ei gilydd.

 

Ffyrdd o weithio

PreventioninvolvementCollaborationIntegration

Rydym yn gwerthfawrogi’r rôl bwysig mae celf yn ei chwarae o ran atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Er enghraifft, roedd gorsaf Conwy wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o dresmasu. Mewn ymateb i hyn, ym mis Mawrth 2023 cafodd dau ddarn celf graffiti newydd eu gosod yn yr orsaf. Wedi eu creu gan yr artist graffiti lleol Andy Birch a myfyrwyr o’r ysgol uwchradd leol, Ysgol Aberconwy, mae’r darnau’n gorchuddio’r tu mewn i ddwy loches yn yr orsaf ac fe gawsant eu hysbrydoli gan dreftadaeth a diwylliant lleol. Roedd un darn yn dangos trên sy’n symud gyda’r negeseuon ‘Dio’m werth o!’ a ‘Don’t risk it!’ gan defnyddio Cymraeg llafar a thafodieithoedd gogleddol sy’n adlewyrchu’r iaith a siaredir gan y gymuned leol.

Drwy gynnwys disgyblion lleol yn y gwaith o ddylunio a chreu’r gwaith celf, gall y prosiectau hyn helpu i feithrin ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth yn yr orsaf a’r ardal gyfagos ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i ehangu’r gosodiadau celf ar draws y rhwydwaith ehangach.

 

I TrC, mae’n bwysig bod ein gorsafoedd yn teimlo fel rhan o’r gymuned, ac mae’r gwaith hwn wir wedi datblygu hynny. Mae’n wych ein bod ni wedi gallu annog y brwdfrydedd hwn ar yr un pryd â lledaenu gwybodaeth hollbwysig am ddiogelwch.

Melanie Lawton​

Arweinydd Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol