Gwasanaethau Cymorth i Deithwyr

Submitted by DanEdw on

Cyflwyniad

Mae ein pwyntiau cyfarfod a thimau penodedig 'Cymorth i Deithwyr' yn sicrhau bod trafnidiaeth rheilffyrdd yn hygyrch a chynhwysol i bawb.

 

Nodau llesiant

A more equal Wales

 

 

Ffyrdd o weithio

Integration involvement

 

 

2019/20

Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod pob teithiwr, waeth beth yw ei allu, yn gallu teithio ar y rheilffordd a bod ein gwasanaethau a'n cynnyrch yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb. Yn y DU, mae 13.9 miliwn bobl yn byw gydag anabledd.

Yng Nghymru a Lloegr, mae gan 1 o bob 5 o bobl anabledd sy'n cyfyngu ar eu gweithgareddau bob dydd, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Nid gwasanaeth i bobl anabl yw unig yw hwn. Mae ar gael hefyd i gwsmeriaid hŷn, menywod beichiog ac unrhyw un sydd angen cymorth gyda bagiau. Gall cwsmeriaid archebu'r gwasanaeth ymlaen llaw, ar ôl cyrraedd yr orsaf neu ar y trên ei hun. Mae'r cydberthnasau hyn yn llywio ein gwaith ac yn gwella'r modd y caiff gwasanaethau eu datblygu, eu cynllunio a'u darparu.

 

Cymorth i Deithwyr

Cyflwynwyd mannau cyfarfod ‘Cymorth i Deithwyr' yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn y lle cyntaf lle mae dros 12 miliwn o deithiau gan deithwyr bob blwyddyn. Cafodd y gwasanaeth dderbyniad da a byddwn yn ei gyflwyno i orsafoedd eraill wedi'u staffio dros y tair blynedd nesaf. Mae'r mannau cyfarfod ger mynedfeydd gorsafoedd. Maen nhw'n cynnwys seddau ac yn amlwg yn ôl eu lliw glas unigryw a phum symbol sy'n cynrychioli prif sectorau’r gymuned anabl a'r rhai â nam symudedd. Mae'r pwyntiau cyfarfod yn galluogi staff trenau i nodi pa gwsmeriaid sydd angen cymorth ac yn cynnig lle mwy cyffyrddus i aros am gymorth.

Mae ein tîm Cymorth i Deithwyr yn ymrwymedig i helpu cwsmeriaid agored i niwed neu'r rhai sydd angen help llaw. Mae 'Cymorth i Deithwyr' wrth wraidd amcanion Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod ein holl deithwyr yn gallu teithio ar drenau’n ddiogel ac yn hyderus.

Rhagor o wybodaeth yma.

 

Drwy ymgysylltu â chwsmeriaid, mae Trafnidiaeth Cymru wedi meithrin dealltwriaeth well o anghenion ein cwsmeriaid a datblygu cydberthnasau cymunedol pendant a pharhaol.

Mg. Robert Gravelle

Rheolwr Hygyrchedd a Chynhwysiant