Gwirfoddoli

Submitted by DanEdw on

Cyflwyniad

Fe wnaethom anfon tîm o wirfoddolwyr i helpu i lanhau Parc Ynysangharad, Pontypridd, yn dilyn y llifogydd dinistriol yn sgil Storm Dennis.

 

Nodau llesiant

A more equal Wales

 

Ffyrdd o weithio

Integration involvement

 

Storm Dennis

Wedi llanast Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, daeth ein cydweithwyr at ei gilydd i ddangos eu cefnogaeth i gymunedau a gafodd eu taro’n wael. Cynigiodd aelodau'r tîm o adrannau gwahanol eu hamser dros bedwar diwrnod i helpu gyda'r gwaith glanhau ym Mhontypridd. Cydlynwyd diwrnodau gwirfoddoli gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wnaeth benderfynu ar y ffordd orau o ddyrannu ein hadnoddau.

Bu'r gwirfoddolwyr yn helpu yng nghlwb bowls Parc Ynysangharad, gan rawio'r holl silt, cerrig a malurion a adawyd gan yr afon. Diolch i'w hymdrechion aruthrol, llwyddodd y timau i gael gwared ar tua 7 tunnell mewn tywydd garw. Hefyd, buon nhw'n clirio pethau oedd naill ai wedi torri neu ddifrodi, megis drysau, fframiau drws a sgyrtinau o'r pafiliwn bowlio a helpu i glirio'r Lido.

 

Ein gwaith

Yn ogystal â rhoi o'u hamser, mae llawer o gydweithwyr a phartneriaid corfforaethol yn cefnogi'r ymdrechion adfer drwy gyfrannu a chodi arian i gynorthwyo cymunedau. Rydym yn annog pobl i feddwl yn y tymor hir ac yn awyddus i'w helpu i gryfhau, nid dim ond trwsio eu cartrefi wedi difrod diweddar y llifogydd. Byddwn yn gweithio'n agos gyda sefydliadau elusennol cydnabyddedig ledled Cymru a'r Gororau i gyfeirio'r arian yn briodol.

Bydd hyn yn llywio gweithgareddau datblygu cymunedol sydd â’r nod o ddarparu amddiffyniad amgylcheddol rhag digwyddiadau yn y dyfodol a helpu ein cymunedau i wella. Hefyd, llwyddwyd i gyfrannu llawer o eitemau hanfodol mawr eu hangen yn Rhondda Cynon Taf, fel offer a deunyddiau glanhau, bwyd a dillad i'w dosbarthu i'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Gall cydweithwyr Trafnidiaeth Cymru gymryd hyd at dri diwrnod o'r gwaith bob blwyddyn er mwyn gwirfoddoli yn y gymuned. Rydyn ni'n cydnabod ein dyletswydd gofal i gymunedau ledled Cymru a'r Gororau, nid dim ond i’n cwsmeriaid, ac yn ymrwymo i roi cymaint o gymorth iddynt ag y gallwn.