Lab gan Trafnidiaeth Cymru

Submitted by DanEdw on

Cyflwyniad

Rydyn ni'n cefnogi entrepreneuriaid, busnesau newydd a chwmnïau sy'n ehangu i ddatblygu syniadau sydd o fudd i'r sector rheilffyrdd a phrofiad cwsmeriaid.

 

Nodau llesiant

A prosperous Wales

 

Ffyrdd o weithio

Integration Collaboration Long term

 

2019/20

Lab gan Trafnidiaeth Cymru yw prif raglen arloesi rheilffyrdd Cymru sy'n ceisio cefnogi cwmnïau newydd uchelgeisiol gyda'u syniadau a'u hatebion arloesol a all fod o fudd i'r rheilffyrdd a'u cwsmeriaid mewn modd cymdeithasol, diwylliannol ac ecogyfeillgar. Byddwn yn cynnal nifer o raglenni sbarduno 12 wythnos sy'n cyflwyno cwmnïau technoleg newydd a'u syniadau o bob cwr o'r DU i Gymru.

Y gobaith yw y bydd y rhaglen yn helpu i roi hwb i economïau lleol hefyd a diogelu swyddi yng Nghymru yn y dyfodol. Ar ddiwedd y rhaglenni sbarduno hyn, bydd y rhai sy'n cychwyn busnes yn gallu cyflwyno eu cynnyrch i randdeiliaid a phenderfynwyr allweddol Trafnidiaeth Cymru. Bydd y syniadau llwyddiannus yn ennill contract i orffen datblygu eu cynnyrch a'i lansio ledled ein rhwydwaith wedyn.

 

Y labordy arloesi

Nod y Labordy Arloesi yw trawsnewid ein rheilffordd yn un sy'n addas at y dyfodol drwy gyflwyno syniadau newydd, arloesol sy'n ein helpu i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus integredig sy'n galluogi ac yn annog teithio llesol yn hytrach na theithio yn eu ceir. Un enghraifft o syniad ymwybodol o'r amgylchedd gan y grŵp cyntaf o griw'r rhaglen sbarduno eleni yw mainc glyfar sy'n gweithio trwy ynni solar.

Bydd y fainc yn galluogi cwsmeriaid i ddefnyddio ynni adnewyddadwy i wefru eu ffonau a defnyddio'r cyswllt wi-fi integredig yr un pryd, gan helpu i hyrwyddo rhwydwaith trafnidiaeth integredig wedi'i ddiogelu at y dyfodol. Os bydd y meinciau hyn yn llwyddiannus, byddantyn gwella amgylchedd gorsafoedd ymhellach hefyd drwy ddarparu sgriniau arddangos LCD y gellir eu defnyddio i ddangos y wybodaeth ddiweddaraf i'n cwsmeriaid.

Mwy o wybodaeth am labordy

 

“Mae'r syniadau o'r radd flaenaf a gyflwynwyd inni yn ystod cam hwn y rhaglen wedi creu cryn argraff arnom ni. Roedd hyn yn golygu bod dewis y busnesau newydd gorau ar gyfer carfan 1 yn dasg anodd tu hwnt. Mae'r Lab yn cynnig cyfle i ddathlu'r doniau lleol hyn. Yn bwysicach fyth, mae'n gyfle hefyd i ddatblygu unrhyw syniadau newydd a all wneud gwahaniaeth ystyrlon i brofiad teithwyr ar hyd a lled ein rhwydwaith, a rhoi’r syniadau hynny ar lwybr carlam.

Michael Davies

Rheolwr Syniadau ac Arloesi