Llwybrau Gwyrdd

Submitted by DanEdw on

Cyflwyniad

Rydym wedi cael £100,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gyfoethogi bioamrywiaeth ar hyd ein rhwydwaith.

 

Nodau llesiant

A resilient Wales

 

Ffyrdd o weithio

Collaboration Long term

 

Beth yw llwybrau gwyrdd?

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cael £100,000 gan un o gynlluniau Llywodraeth Cymru, sef Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a Chronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn cyfoethogi bioamrywiaeth leol mewn gorsafoedd rheilffordd ac ar eu cyrion.

Gyda mwy na 250 o orsafoedd i’w cael ledled y rhwydwaith, mae gan Trafnidiaeth Cymru gyfle i wneud yn fawr o botensial y lleoliadau hyn a chynnwys natur fyw mewn gorsafoedd a chymunedau lleol. Trwy gydweithio â phartneriaid cymunedol, byddwn yn cyflwyno mesurau i gyfoethogi bioamrywiaeth ac ailgysylltu ein teithwyr a’n cymunedau lleol â natur.

Fel rhan o’r prosiect, a elwir yn Llwybrau Gwyrdd, bydd Trafnidiaeth Cymru’n cyflwyno nodweddion gwyrdd mewn 22 o’i orsafoedd. Bydd y gwelliannau’n cynnwys waliau gwyrdd, toeau gwyrdd, potiau blodau, basgedi crog, coed a chasgenni dŵr. Hefyd, bydd gwestai gwenyn, tai adar, tai ystlumod, gwestai pryfed, tai draenogod a thai buchod coch cwta’n cael eu cyflwyno er mwyn rhoi hwb i fioamrywiaeth yr ardal.

Bydd y prosiect yn cynnwys Mabwysiadwyr Gorsafoedd, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid lleol.

 

Y prosiect

Bydd y prosiect yn cynnwys Mabwysiadwyr Gorsafoedd, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid lleol.

Bydd Trafnidiaeth Cymru’n cefnogi prosiectau bioamrywiaeth lleol ar y cyd â phump o bartneriaid cymunedol o fewn milltir i’w orsafoedd rheilffordd.

Defnyddir yr arian i gefnogi Sefydliad Enbarr ger Pont Penarlâg, Neuadd Bentref Ffynnon Taf, y Cambrian Village Trust ger Tonypandy, Hwb Cymunedol Twyn ym Merthyr Tudful, a Rhandiroedd Bron Fair ger Maesteg.

Bydd y cwmni’n cyfoethogi bioamrywiaeth ac yn hybu amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid mewn sawl gorsaf yn awdurdodau lleol Caerffili, Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam.

Rhoddwyd y prosiect ar waith ym mis Mehefin 2021 a bydd yn cael ei gwblhau erbyn diwedd yr haf

 

Rydym yn lwcus iawn o gael y cyfle hwn i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i geisio gwarchod a diogelu ein bioamrywiaeth yn Cambrian Village Trust, ym Mharc Gwledig Cwm Clydach a thrwy ganol y Rhondda. Ein bwriad hirdymor o’r cychwyn oedd creu lle i blanhigion, ffrwythau a llysiau dyfu a gweithio gyda’r gymuned er mwyn helpu i gynnal a chadw’r ardd.

Gavin McAuley​

Cydgysylltydd Gweithgareddau Awyr Agored, Cambrian Village Trust​