Mabwysiadwyr Gorsafoedd

Submitted by DanEdw on

Cyflwyniad

Drwy ein rhaglen 'Mabwysiadu Gorsaf', mae 250 a mwy o wirfoddolwyr yn gweithio i wella a chynnal 151 o orsafoedd yn eu cymunedau lleol o Fôn i Fynwy.

 

Nodau llesiant

A Wales of cohesive communities

 

Ffyrdd o weithio

involvement Collaboration

 

Mabwysiadu Gorsaf

Nod y cynllun hwn yw helpu i wella ein cysylltiadau â chymunedau lleol a chwsmeriaid sy'n byw ger gorsafoedd trenau heb staff. Mae gorsafoedd yn rhan bwysig o gymunedau, ac yn aml, dyma'r peth cyntaf mae pobl yn ei weld wrth gyrraedd tref. Mae amcanion y cynllun yn debyg iawn i'r cynllun 'Gwarchod Cymdogaeth' lle mae pobl leol yn ein helpu drwy gadw llygad ar eu gorsaf a chynnal amgylchedd da i bobl sy'n cyrraedd y gymuned. Mae mabwysiadwyr gorsaf yn cyflwyno o leiaf ddau adroddiad y mis am gyflwr eu gorsaf. Gofynnwn i fabwysiadwyr sôn am faterion a phroblemau sbwriel, graffiti, fandaliaeth, goleuadau, pwyntiau cymorth gwybodaeth, a gwybodaeth am amserlenni.

Yn gyfnewid am eu cymorth gwerthfawr, mae’r holl fabwysiadwyr gorsafoedd yn cael taleb deithio flynyddol i'w defnyddio ar unrhyw ran o rwydwaith trenau'r DU. Hefyd, maen nhw'n cael eu gwahodd i gynhadledd ranbarthol yn yr haf er mwyn cwrdd â mabwysiadwyr eraill a chlywed am ein cynlluniau cyffrous ar gyfer gwella gorsafoedd a'r fflyd cerbydau.

 

Mabwysiadwyr gorsafoedd

Mae rhai grwpiau mabwysiadu gorsafoedd yn gofalu am arddangosfeydd blodau neu ardd yr orsaf. Llwyddodd gwirfoddolwyr Nantwich i gynnal a chadw'r ardd i safon mor uchel nes ennill gwobr ‘MerseyRail in Bloom’ yng ngwobrau gorsafoedd taclusaf 17 Swydd Gaer, a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2020.

Cafodd gorsafoedd Frodsham a Runcorn ganmoliaeth hefyd i nodi adfer gwasanaethau teithwyr rheolaidd gan Trafnidiaeth Cymru, gyda rhai Halton Curve a Wrenbury wedi'u henwi fel y rhai oedd wedi gwella fwyaf. Mae gorsaf y Waun wedi'i chydnabod gan sefydliadau eraill, gan dderbyn Gwobr Clwyd a Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam am welliannau amgylcheddol.

Ers i'r rhaglen ddechrau, mae 151 o orsafoedd wedi'u mabwysiadu. Ar hyn o bryd, mae dros 250 o wirfoddolwyr gweithgar yn helpu i ofalu am ein gorsafoedd. Rydym yn falch o weld cymunedau'n awyddus i gyfrannu at eu gorsafoedd trenau lleol ac yn falch o rôl y cynllun 'Mabwysiadu Gorsaf' o ran helpu pobl i fod yn fwy iach a heini.

Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan, cliciwch yma.

 

Dylai'r cynnydd a wnaed ers mis Mawrth 2019 gael hwb gan welliannau arfaethedig Trafnidiaeth Cymru dros y 12 mis nesaf, fel rhan o'u cynllun busnes.

David Houghton

Mabwysiadwr Gorsaf Wrenbury