Masnach Deg

Submitted by DanEdw on

Cyflwyniad

Rydyn ni’n falch o gefnogi Masnach Deg trwy gynnig te a choffi masnach deg ar bob trên. Eleni, buom yn dathlu pythefnos Masnach Deg trwy gefnogi elusen Love Zimbabwe.

 

Nodau llesiant

A globally responsible Wales

 

Ffyrdd o weithio

Integration involvement

 

Sefydliad Masnach Deg

Wrth i ni fwrw ymlaen â’n cynlluniau i weddnewid rhwydwaith trafnidiaeth Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddilyn dull cynaliadwy a moesegol a ddaw â manteision i genedlaethau heddiw ac yfory.

Rydym yn ymroi i wreiddio’r ethos hwn yn ein gwaith a ledled ein cadwyni cyflenwi, ac yn ymgysylltu â chyflenwyr mewn ffordd sy’n hyrwyddo ymddygiad sy’n cefnogi gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym yn cefnogi masnach deg a’r Sefydliad
Masnach Deg, sy’n sicrhau prisiau gwell, amodau gwaith gweddus, cynaliadwyedd lleol, a thelerau masnachu teg i ffermwyr a gweithwyr yn y byd datblygol.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gynnig te a choffi gydag ardystiad Masnach Deg ar ein trenau. Eleni, bu Trafnidiaeth Cymru yn dathlu Pythefnos Masnach Deg a gynhaliwyd rhwng 24 Chwefror ac 8 Mawrth. Yn ystod y pythefnos yma, daeth miloedd o unigolion,
cwmnïau a grwpiau o bob cwr o’r DU at ei gilydd i rannu straeon am bobl sy’n tyfu ein bwydydd a’n diodydd a’r cotwm yn ein dillad, pobl y camfanteisir arnynt yn aml ac sy’n derbyn cyflog pitw.

 

Caru Zimbabwe

I gychwyn y pythefnos, croesawyd Martha Musonza Holman o elusen Love Zimbabwe i siarad â Trafnidiaeth Cymru. Soniodd am ei phrofiadau a’r modd mae cymunedau’n elwa ar fenter Masnach Deg a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud i fywydau pobl ym mhedwar ban byd. Martha, sy’n wreiddiol o Zimbabwe ond yn byw yng Nghymru erbyn hyn, yw sylfaenydd Love Zimbabwe, a’r nod yw hybu addysg a datblygiad masnach deg yng Nghymru a Zimbabwe wrth feithrin ymwybyddiaeth fyd-eang ac undod cyffredin.

Cafwyd trafodaeth fuddiol wedyn a wnaeth annog staff Trafnidiaeth Cymru i ystyried sut mae cynhyrchion bob dydd yn cael eu gwneud ac ystyried effeithiau cadarnhaol uniongyrchol Masnach Deg ar ffermwyr ar ddechrau’r gadwyn gyflenwi. Fel rhan o’r digwyddiad, daeth Martha ag enghreifftiau o grefftau gan fenywod yn Zimbabwe a threfnodd y Tîm Datblygu Cynaliadwy raffl gyda basged nwyddau Masnach Deg yn wobr. Llwyddodd y crefftau a’r raffl i godi bron i £150 tuag.

 

Fe wnes i fwynhau’r sgwrs yn fawr ... i ddathlu dechrau pythefnos Masnach Deg. Roedd yn sgwrs hynod ysbrydoledig am gryfder trwy adfyd a phwysigrwydd meddwl cyn prynu. Dwi’n credu bod profiadau personol Martha wedi dod â’r sgwrs yn fyw.

Kayleigh Meek

Swyddog Gweinyddol a Phrosiectau Masnacho