Modelau Ffynnon Taf
Cyflwyniad
Wrth brynu cerbydau newydd, bydd gwneuthurwyr yn anfon modelau pren at weithredwyr i ddangos y fanyleb. Defnyddiodd ein tîm ymgysylltu â’r gymuned a rhanddeiliaid y rhain i ategu amrywiaeth o weithgareddau i ddysgu am yr unedau newydd a siarad am drafnidiaeth.
Nod Llesiant
Wrth i’r stablau metro ar gyfer y trenau tram newydd gael eu hadeiladu drws nesaf, croesawodd Trafnidiaeth Cymru dros 800 o ymwelwyr i weld y trenau ffug o bob cwr o Gymru a’r Gororau, er mwyn iddynt allu profi’r trenau eu hunain.
Mae rhai o’r bobl hyn wedi bod yn yrwyr dan hyfforddiant a fyddai’n mynd ymlaen i yrru’r unedau go iawn ar draws Cymru a’r Gororau. Fe wnaethom hefyd groesawu rhanddeiliaid fel Transport for Greater Manchester, Railfuture a Chyfeillion y Ddaear i ddod i'w gweld nhw.
Yn bwysicaf oll efallai, croesawodd safle’r modelau nifer fawr o fyfyrwyr a phlant ysgolion cynradd hefyd, yn ogystal â myfyrwyr o ysgolion anghenion dysgu ychwanegol. Rydym eisiau helpu pawb i ddeall y newidiadau rydym yn eu gwneud i’r rheilffyrdd er mwyn iddynt allu bod yn rhan ohono, a chreu rhywfaint o gyffro ynghylch enghreifftiau go iawn o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
Ffyrdd o weithio
Fe wnaeth y gyfres hon o ddigwyddiadau ein galluogi i ddangos ein ‘Civity’ CAF Dosbarth 197 newydd a cherbydau ‘Tram-Drenau’ Metro Dosbarth 398, gan ddefnyddio modelau maint go iawn, i’n cydweithwyr, eu ffrindiau a’u teuluoedd. Gyda gweithgareddau hwyliog yn cael eu darparu gan gydweithwyr o bob rhan o’r busnes, roedd modd i ni arddangos dyfodol ein fflyd, a’r system drafnidiaeth rydyn ni’n ei rhagweld.
Mae’n bwysig i ni nad yw ein gwaith yn dod i ben wrth gyflawni prosiectau trafnidiaeth, na gweithredu gwasanaethau trafnidiaeth, ond ein bod ni’n gallu creu cyfleoedd i ddysgu a sbarduno trafodaeth.
O yrwyr trenau i blant ysgolion cynradd, ac o weinidogion y llywodraeth i grwpiau preswylwyr lleol, mae ymwelwyr wedi mwynhau dysgu am sut mae Trafnidiaeth Cymru yn trawsnewid teithio a chysylltedd, gan adael yn llawn cyffro wrth edrych tua’r dyfodol.
Jamie Warner
Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned, Trafnidiaeth Cymru