Mynediad 2 am bris 1

Submitted by Content Publisher on

Cyflwyniad

Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Cadw i gynnig mynediad 2 am bris 1 drwy brynu tocyn trên, i hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Cymru.

 

Nod Llesiant

A Wales of vibrant culture and Welsh Language

Gyda mwy na 600 o gestyll, mae gan Gymru fwy o gestyll fesul milltir sgwâr nag unrhyw wlad arall yn Ewrop. Mae gennym rai o’r enghreifftiau gorau o adeiladu cestyll canoloesol yn ogystal ag abatai, capeli a rhai o’r henebion hynafol mwyaf atmosfferig y mae ymwelwyr wedi bod yn ymweld â nhw ers miloedd o flynyddoedd.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gefnogi ein safleoedd treftadaeth drwy annog ymwelwyr i’w profi. Mae rhwydwaith rheilffyrdd Cymru nid yn unig yn darparu mynediad at lawer o’r lleoliadau hyn, ond mae hefyd yn cynnig profiad i fwynhau tirwedd Cymru ar y daith.

Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Cadw i gynnig mynediad 2 am bris 1 yn unrhyw un o’u safleoedd ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Yn ystod yr hyrwyddiad, gall cwsmeriaid gyflwyno tocyn trên yn unrhyw un o 130 safle treftadaeth taledig Cadw a manteisio ar y cynnig cyffrous hwn i gael mynediad am ddim pan fydd rhywun arall yn talu’r tâl mynediad llawn.

 

Ffyrdd o weithio

Collaboration Integration

Yn ystod Wythnos Ailgylchu 2019, fe wnaethom ymuno â Cadw ac Ailgylchu dros Gymru i gynnig gwobr wych i grŵp o ailgylchwyr craff a darpar archwilwyr: Tocyn Crwydro Cymru TrC i ddau oedolyn, a Thocyn Archwilio Cadw i ymweld â rhai o gestyll ac atyniadau hanesyddol mwyaf anhygoel Cymru ar gyfer grŵp o ddau oedolyn a dau blentyn. Rhoddodd enillydd y gystadleuaeth, Kerstin, awgrymiadau gwych ar gyfer defnyddio hen gynwysyddion.

Mae rhagor o wybodaeth am ein partneriaeth â Cadw ar gael yma.

Rydym yn annog teithwyr TrC i fanteisio ar y fargen hon ac i archwilio’r hanes gwych sydd gan Gymru i’w gynnig.

Cadw logo