Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan (EV)

Submitted by DanEdw on

Cyflwyniad

Rydym wedi bod yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru wrth i ddatblygu ein strategaeth i greu rhwydwaith o bwyntiau gwefru EV ar hyd a lled y wlad.

 

Nodau llesiant

A resilient Wales

 

Ymgysylltu

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi £2 filiwn erbyn 2020 er mwyn creu rhwydwaith o bwyntiau gwefru cyflym a galluogi teithio ymhellach gyda cherbydau trydan ledled Cymru. Cawsom y dasg o gyflawni'r uchelgais hon a hwyluso siwrneiau hirbell fel bod gwefrydd ar gael bob 50 milltir o leiaf ar draws y rhwydwaith ffyrdd strategol a meysydd parcio gorsaf drenau yng Nghymru.

Er mwyn deall barn cyrff cyhoeddus a'r farchnad yn well, buom yn gweithio gydag Arup i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Rhwng mis Hydref a mis Ionawr, cynhaliwyd arolwg o bob un o'r 22 o awdurdodau lleol yn ogystal â thirfeddianwyr mawr eraill yn y sector cyhoeddus, a chynhaliwyd tri gweithdy dilynol ledled Cymru. Ym mis Ionawr, cynhaliwyd gweithdy cyflenwyr yn cynnwys tua 58 o gynrychiolwyr o 44 o sefydliadau ar draws y gadwyn gyflenwi. Wedyn cawsom drafodaethau un-i-un a'n helpodd i lunio ein llwybr cyflenwi dewisol.

 

Canlyniadau

Daeth i'r amlwg mai cyllid a gallu'r grid trydan oedd prif rwystrau'r prosiect. Roedd yr adborth yn pwysleisio'r angen am fwy o fuddsoddiad mewn seilwaith EV hefyd er mwyn ysgogi pobl i brynu cerbydau trydan a bod angen diogelu dyfodol rhwydweithiau trydan o safbwynt datgarboneiddio a'r cynnydd mewn pwyntiau gwefru EV.

Yn arwyddocaol, roedd pawb yn croesawu'r potensial ar gyfer dull gweithredu strategol a chydgysylltiedig (gan gynnwys rhannu gwybodaeth). Bu'r adborth o gymorth i ychwanegu gwerth i'r prosiect a helpu i lywio cam nesaf y prosiect o ddatblygu strategaeth EV Cymru gyfan. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu strategaeth gaffael a dechrau cyflenwi unedau gwefru.

 

Roedd y digwyddiadau i randdeiliaid yn llwyddiant mawr, gyda chyfraniadau rhagorol gan dirfeddianwyr sector cyhoeddus Cymru a thrawstoriad eang o gadwyn gyflenwi cerbydau trydan.

Steve Ward

Rheolwr Datblygu Masnachol