Rhaglen Diffibrilwyr

Submitted by Content Publisher on

Cyflwyniad

Rydym wedi gosod 210 o ddiffibrilwyr mewn dros 176 o orsafoedd trenau ledled Cymru a’r Gororau mewn ardaloedd lle gall pawb eu defnyddio.

 

Nod Llesiant

A more equal WalesA Wales of cohesive communitiesA healthier Wales

Gall ataliad y galon ddigwydd yn unrhyw le, ar unrhyw adeg, ac mae’r siawns o oroesi yn gostwng 10% fesul munud. Gall defnyddio CPR a diffibriliwr yn brydlon o fewn tri munud cyntaf ataliad y galon gynyddu siawns y claf o oroesi hyd at 70%. Mae gorsafoedd trenau yn ganolbwynt i lawer o gymunedau ac yn aml dafliad carreg yn unig o ble mae pobl yn byw neu’n gweithio.

Mae’n bwysig bod rhwydwaith o ddiffibrilwyr ar gael mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys mewn gorsafoedd trenau. Rydym wedi gosod 210 o ddiffibrilwyr mewn gorsafoedd ledled Cymru a’r gororau, ac mae’r holl ddiffibrilwyr hyn wedi cael eu cofrestru gyda Chynllun Cylched Sefydliad Prydeinig y Galon. Dim ond mewn rhannau o orsafoedd sy’n hygyrch i’r cyhoedd y maent ar gael ac maent ar gael i unrhyw un mewn angen, 24 awr y dydd.

 

Ffyrdd o weithio

Prevention Long term 

Yn ogystal â gosod y dyfeisiau hyn sy’n achub bywydau, mae’r tîm Ymgysylltu â’r Gymuned a Rhanddeiliaid wedi ffurfio partneriaeth ag Achub Bywydau Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnig digwyddiadau hyfforddi adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a defnyddio diffibrilwyr yn rhad ac am ddim. Rydym yn bwriadu cynnal mwy o ddigwyddiadau hyfforddi mewn gorsafoedd trenau, ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol ger gorsafoedd lle mae diffibrilwyr wedi cael eu gosod.

Roeddem yn ddiolchgar am gefnogaeth Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a adawodd i ni ffilmio fideo gydag aelodau o’u tîm pêl-droed, i dynnu sylw at bwysigrwydd y dyfeisiau hyn a’u cadw’n ddiogel i’w defnyddio.

Mae gosod diffibrilwyr mewn gorsafoedd trenau, a’r ymgyrch i’w hatal rhag cael eu fandaleiddio, yn dangos yn glir gyfraniad y rhaglen hon at iechyd a chydlyniant cymunedol. Rydyn ni’n falch o fod wedi cydweithio â Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i rannu’r neges am eu pwysigrwydd.


 

Bydd mwy o ddiffibrilwyr mynediad cyhoeddus yn cynyddu eich siawns o oroesi’n sylweddol. Mae gorsafoedd trenau gwledig yn ganolbwynt i rai cymunedau, felly mae rhoi offer achub bywyd yn y gorsafoedd hynny’n hollbwysig i gefnogi’r gymuned leol. 

Carl Powell​

Arweinydd Cymorth Clinigol ar gyfer Gofal Cardiaidd

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru