Riding Sunbeams

Submitted by DanEdw on

Cyflwyniad

Gan weithio gyda'n partneriaid, rydym yn ymchwilio i'r defnydd arloesol o dechnoleg ynni adnewyddadwy.

 

Nodau llesiant

A resilient Wales

 

Ffyrdd o weithio

Collaboration involvement Long term Prevention

 

Net-sero

Yn unol â tharged Llywodraeth Cymru o gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050, bydd Trafnidiaeth Cymru yn trydaneiddio prif linellau'r Cymoedd. Bydd trydaneiddio’n cynyddu ein defnydd o ynni ac rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio 100% o ynni adnewyddadwy, gyda 50% ohono'n tarddu o Gymru.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda chonsortiwm o bartneriaid dan arweiniad Riding Sunbeams ar astudiaeth ddichonoldeb sy'n ymchwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio ynni adnewyddadwy ar ochr y lein er mwyn trydaneiddio gwifrau uwchben yn y Cymoedd.

 

Dyfodol carbon isel

Yn dilyn ymchwil helaeth a ariannwyd gan Fwrdd Diogelwch a Safonau’r Rheilffyrdd, a chan gydweithio â Trafnidiaeth Cymru, Network Rail ac Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cymru, mae Riding Sunbeams wedi canfod y gallai pŵer tyniant solar gyflenwi o leiaf un rhan o ddeg o'r ynni sydd ei angen i bweru trenau ar lwybrau DC wedi'u trydaneiddio yn y DU bob blwyddyn. Gallai fod o fudd ariannol hefyd i ffermydd solar a chwmnïau trenau yn awr gan nad oes angen unrhyw gymhorthdal cyhoeddus.

Mae ynni cymunedol, effaith gymdeithasol a phwysigrwydd cydweithio â chymunedau wrth ymyl y lein a defnyddwyr rheilffyrdd wrth galon y prosiect. Mae gan botensial y dechnoleg hon oblygiadau aruthrol i'r DU a'r byd wrth symud i ddyfodol carbon isel.

 

Mae'r astudiaeth gyffrous hon yn gyfle euraidd i feddwl sut i ddefnyddio technolegau newydd er mwyn dod ag arweinwyr Cymru ynghyd o ran trydaneiddio rheilffyrdd ac ynni adnewyddadwy cymunedol. Mae cyfoeth o adnoddau ynni adnewyddadwy yn Ne Cymru, a sector ynni cymunedol ffyniannus a allai gyd-fynd yn berffaith â chynlluniau arloesol Network Rail ar gyfer trydaneiddio rheilffyrdd clyfar yn y rhanbarth.

Leo Murray

Cyfarwyddwr Arloesi

10:10