Sherpa'r Wyddfa
Cyflwyniad
Mae gwasanaeth bws arbenigol a ddarperir gan Gyngor Gwynedd yn cysylltu cerddwyr a dringwyr o bob cwr o’r sir â throed yr Wyddfa.
Nod Llesiant
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn darparu rhai o olygfeydd mwyaf dramatig a phrydferth Cymru, ond yn yr haf mae’r ffyrdd troellog o gwmpas yr Wyddfa yn troi’n giwiau peryglus o geir wedi eu parcio, wrth i gerddwyr a dringwyr gyrraedd y mynyddoedd.
Mae gan wasanaeth Sherpa’r Wyddfa ar ei newydd wedd, a lansiwyd yn 2022, 5 llwybr, sy’n dechrau ac yn gorffen yng Nghaernarfon, Bangor, Beddgelert, Betws y Coed, Dinorwig a Phorthmadog, a phob un yn stopio wrth droed yr Wyddfa.
Mae’r bysiau’n cynnig rhywbeth llawer mwy cyfforddus a deniadol i gwsmeriaid hefyd, gyda brandio Cymraeg newydd a lifrai lliwgar sy’n adlewyrchu harddwch y dirwedd naturiol, a Lili eiconig yr Wyddfa. Mae’r brand hwn yn cael ei adlewyrchu mewn taflenni newydd, baneri safleoedd bysiau, byrddau gwybodaeth ac asedau cyfryngau cymdeithasol.
Ffyrdd o weithio
Mae bysiau’n cynnig llawer mwy o ryddid i gerddwyr a dringwyr archwilio’r parc cenedlaethol o’i gymharu â char, gan nad ydych chi wedi eich clymu i faes parcio, ac yn hytrach gallwch grwydro’n rhydd yn hyderus y bydd gwasanaeth i fynd â chi yn ôl i’ch llety.
Ers cyflwyno’r gwasanaeth newydd hwn ym mis Ebrill 2022, mae nifer y teithwyr eisoes wedi cynyddu 18% o’i gymharu â’r un cyfnod cyn COVID yn 2019. Mae daearyddiaeth gogledd Cymru yn un sydd wedi profi’n anodd ei chysylltu; roedd hyd yn oed y Rhufeiniaid yn cael anhawster teithio’n gyflym drwy fynyddoedd Eryri. Gobeithiwn y bydd y gwasanaeth hwn yn cysylltu rhanbarthau mynyddig Eryri â’r rheilffordd sy’n rhedeg ar hyd ei harfordir, gan wella’r gallu i gyrraedd yr ardaloedd gwledig hyn yn gynaliadwy, heb ddefnyddio ceir.
Mae’r datblygiadau i’r gwasanaeth yn rhagorol ac maent eisoes yn helpu i sbarduno newid ymddygiad gan fod mwy a mwy o bobl yn dewis gadael eu ceir yng nghyfleusterau parcio a theithio’r Parc Cenedlaethol ac yn neidio ar y bws i fynd â nhw allan am ddiwrnod o antur
Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd
Cyngor Gwynedd