Teithio Llesol
Cyflwyniad
Rydyn ni'n datblygu Depo Ffynnon Taf i integreiddio gyda llwybr Taith Taf er mwyn cysylltu â llwybr cymudo allweddol i'r brifddinas.
Nodau llesiant
Ffyrdd o weithio
Dewisiadau mwy cynaliadwy
Hoffem i rwydwaith trafnidiaeth y dyfodol annog dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a chyfrannu at leihau allyriadau cerbydau. Dyna pam rydyn ni'n gwella seilwaith teithio llesol, fel parcio beiciau, yn ein gorsafoedd ac yn cyflwyno elfennau teithio llesol i'n prosiectau eraill.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod teithio llesol yn elfen allweddol o rwydwaith trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol ac yn gweithio'n galed i'w gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio i'n gorsafoedd. Hefyd, rydym yn ystyried gwelliannau teithio llesol fel rhan o brosiectau seilwaith eraill lle gallant gyfrannu at wella rhwydweithiau teithio llesol lleol.
Datblygiad Ffynnon Taff
Mae safle datblygu depo Ffynnon Taf ger gorsaf drenau Ffynnon Taf yn ogystal â llwybr Taith Taf, rhan bwysig o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yma yng Nghymru a llwybr cymudo allweddol i feicwyr sy'n teithio i Gaerdydd. Fel rhan o'r broses o gynllunio depo Ffynnon Taf, fe wnaethom gydweithio â nifer o randdeiliaid, gan gynnwys yr awdurdod lleol a chynrychiolwyr defnyddwyr beiciau, er mwyn nodi cyfleoedd i wella'r llwybr presennol a'i wneud yn fwy uniongyrchol fel rhan o'r rhwydwaith lleol.
Law yn llaw â'r gwaith ar lwybr Taith Taf ei hun, bydd ein gwelliannau ehangach i orsaf drenau Ffynnon Taf yn cynnwys gwella'r cyfleusterau parcio beiciau hefyd er mwyn ei gwneud hi'n fwy deniadol i bobl gyfuno trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ar gyfer siwrneiau pellach.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y cyfleoedd sydd gennym yn Trafnidiaeth Cymru i hyrwyddo a darparu ar gyfer teithio llesol. Bydd angen i gydweithio fod wrth wraidd y daith honno ac mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o fanteision cydweithio.
Mathew Gilbert
Arweinydd Teithio Llesol