Y Ddraig Werdd

Submitted by Content Publisher on

Cyflwyniad

Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau effeithiau amgylcheddol lleol a byd-eang ein gweithrediadau.

 

Nod Llesiant

ProsperousA globally responsible WalesA resilient Wales

Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan i amddiffyn ein hamgylchedd rhag unrhyw ddifrod a diraddio ac felly rydym wedi cynllunio ein System Rheoli Amgylcheddol yn unol â Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd. Mae hyn yn rhoi’r fframwaith angenrheidiol i ni atal effeithiau amgylcheddol niweidiol a hyrwyddo gwelliannau amgylcheddol parhaus yn ein busnes.

Er enghraifft, er bod ein holl drydan yn dod o ffynonellau di-garbon ar hyn o bryd, ers 1 Ebrill 2020, mae 50% o’r ynni hwn wedi cael ei gynhyrchu yng Nghymru. Rydym hefyd wedi defnyddio ein System Reoli Amgylcheddol i helpu i ddiffinio cyfrifoldebau amgylcheddol ein pobl sydd, yn ei dro, yn eu helpu i ddeall effaith amgylcheddol eu gweithgareddau o ddydd i ddydd a sicrhau bod meddwl hirdymor yn rhan annatod o’n holl brosesau gwneud penderfyniadau.

Mae Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd wedi ei strwythuro’n bum ‘Lefel’ ac mae’n cydnabod ymrwymiad amlwg sefydliad i gynaliadwyedd, ystyriaeth o’u heffeithiau amgylcheddol, cydymffurfiad â deddfwriaeth a diogelu’r amgylchedd.

 

Ffyrdd o weithio

Prevention Long term 

Rydym yn chwarae ein rhan i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio adnoddau naturiol yn effeithlon wrth weithio i leihau ein heffaith amgylcheddol yn barhaus. I wneud hyn, rydym wedi mabwysiadu nifer o arferion cynaliadwy, gan gynnwys:

  • Trydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd. Bydd darparu gwasanaethau amlach yn helpu i wella ansawdd aer y cymunedau cyfagos drwy leihau traffig.
  • Cysoni ein hegwyddorion a’n nodau â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).

Yn 2022, daethom â’n swyddfa yn Llys Cadwyn a’n canolfannau arlwyo i fyny i Lefel 5 o Lefel 3 a’n gorsafoedd i Lefel 3 o Lefel 2. Mae hyn yn golygu bod Llys Cadwyn, ein tair depo cynnal a chadw trenau a’n pedair canolfan arlwyo ar y lefel uchaf erbyn hyn.

 

Mae ein System Reoli Amgylcheddol wedi cael ei dylunio i fodloni gofynion Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd ar yr un pryd â sicrhau ein bod ni’n gallu diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Sophie Duggan

Arweinydd Cydymffurfio Amgylcheddol, Trafnidiaeth Cymru