Datganiad i'r Wasg Llanbadoc
Trafnidiaeth Cymru yn cychwyn ar genhadaeth amgylcheddol gyda chyngor cymuned lleol.
Bydd coed newydd yn cael eu plannu, a bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi i gynnal a chadw coetiroedd fel rhan o brosiect natur gymunedol newydd gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Chyngor Cymuned Llanbadog.
Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i wella coetir Twyn-y-Cryn yng Nglascoed, rhan o Gomin Glascoed. Byddwn yn gweithio ym 160,000 metr sgwâr o Goetir Bwtsiais y gog Lled-naturiol Hynafol i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol i’r coetir, i hyfforddi gwirfoddolwyr ac i blannu coed ifanc yn y coetir er mwyn hybu a gwella bioamrywiaeth bywyd gwyllt.
Dywedodd cynrychiolydd o’r Cyngor, “Mae Cyngor Cymuned Llandbadog yn cydnabod y rolau pwysig y mae bioamrywiaeth ac ecoleg yn eu chwarae yn ein gwaith ac mae hyn felly’n llywio ein penderfyniadau rheoli tir. Bydd y prosiect hwn yn gyfle gwych i weithio ochr yn ochr ag aelodau o’n cymuned i adfer a chreu cynefinoedd a rhwydweithiau ecolegol cadarn, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ein coetiroedd hynafol hardd yn y dyfodol.”
Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd Trafnidiaeth Cymru: “Bydd y prosiect Coed Cymunedol yn helpu i wneud coetiroedd yn fwy hygyrch a gwydn, gan gefnogi iechyd a llesiant cymunedau a darparu ardaloedd ar gyfer rhagor o gysylltiadau a bioamrywiaeth bywyd gwyllt. Mae prosiectau fel hyn yn bwysig i ni yn TrC, mae creu rhwydwaith mwy cysylltiedig yn golygu mwy na gwell opsiynau trafnidiaeth. Drwy weithio’n agos gyda’n cymunedau, gallwn sicrhau ein bod yn adeiladu rhwydwaith y mae ar Gymru ei angen, yn ei haeddu ac sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Mae TrC ac 11 o bartneriaid cymunedol ar draws Cymru wedi cael £100,000 gan Gynllun Coed Cymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol . Bydd y prosiectau a ariennir gan y cynllun grant hwn yn helpu i lywio syniadau Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad hirdymor y Goedwig Genedlaethol yng Nghymru.
Mae’r prosiect naw mis yn gydweithrediad gyda sefydliadau ar hyd a lled Cymru, sy’n cynnwys cynghorau lleol, mentrau cymdeithasol ac elusennau coetir a chymunedol. Gyda’n gilydd, byddwn yn creu safleoedd coetir newydd ac yn gwella coetiroedd sydd eisoes yn bodoli mewn naw ardal ar hyd a lled Cymru.
Mae’r prosiect yn rhan o raglen ehangach TrC, Coed Cymunedol, sy’n cael ei hariannu gan y cynllun Coed Cymunedol. Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru