Datganiad i'r Wasg WoodsWork CIC, Cyngor Cymuned Offa a Chyngor Cymuned Penyffordd

Submitted by Content Publisher on

Trafnidiaeth Cymru yn cychwyn ar genhadaeth amgylcheddol gyda sefydliadau lleol.

Llwybrau hygyrch newydd a gwelliannau i’r coetiroedd yn Little Vawnog, Wrecsam a Phenyffordd fel rhan o brosiect coed cymunedol newydd gyda Trafnidiaeth Cymru (TrC), Woodswork CIC, Cyngor Cymuned Offa a Chyngor Cymuned Penyffordd.

Yn Little Vawnog, rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i wneud y coetiroedd yn fwy hygyrch, drwy adfer llwybrau a gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Bydd ardal natur Penyffordd yn elwa o gael gwared ar isdyfiant er mwyn gallu plannu coed brodorol gan greu coetir newydd yn ardal drefol Sir y Fflint.

Dywedodd WoodsWork CIC: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i wella’r ddwy ardal hyn er budd bywyd gwyllt a’r cymunedau”.

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd TrC: “Bydd y prosiect Coed  Cymunedol yn helpu i wneud coetiroedd yn fwy hygyrch a gwydn, gan gefnogi iechyd a llesiant cymunedau a darparu ardaloedd ar gyfer rhagor o gysylltiadau a bioamrywiaeth bywyd gwyllt. Mae prosiectau fel hyn yn bwysig i ni yn TrC, mae creu rhwydwaith mwy cysylltiedig yn golygu mwy na gwell opsiynau trafnidiaeth. Drwy weithio’n agos gyda’n cymunedau, gallwn sicrhau ein bod yn adeiladu rhwydwaith y mae ar Gymru ei angen, yn ei haeddu ac sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae TrC ac 11 o bartneriaid cymunedol ar draws Cymru wedi cael £100,000 gan Gynllun Coed Cymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol . Bydd y prosiectau a ariennir gan y cynllun grant hwn yn helpu i lywio syniadau Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad hirdymor y Goedwig Genedlaethol yng Nghymru.

Mae’r prosiect naw mis yn gydweithrediad gyda sefydliadau ar hyd a lled Cymru, sy’n cynnwys cynghorau lleol, mentrau cymdeithasol ac elusennau coetir a chymunedol.  Gyda’n gilydd, byddwn yn creu safleoedd coetir newydd ac yn gwella coetiroedd sydd eisoes yn bodoli mewn naw ardal ar hyd a lled Cymru.

Mae’r prosiect yn rhan o raglen ehangach TrC, Coed Cymunedol, sy’n cael ei hariannu gan y cynllun Coed Cymunedol. Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru