Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn edrych yn ôl ar ein llwyddiannau yn 2021/22

Mae'r adroddiad yn manylu ar sut rydym yn adfer o effaith y pandemig coronafeirws a chreu rhwydwaith trafnidiaeth ddiogel a chynaliadwy.

Ein nod yw gwneud teithio ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn wirioneddol gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth integredig sy’n addas ar gyfer y dyfodol, sy’n cyfrannu at gynaliadwyedd  hirdymor Cymru a’r cymunedau hynny sydd wedi cysylltu â ni, i helpu i gyflawni saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ein gweledigaeth yw creu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid drwy rwydwaith trafnidiaeth diogel y gall Cymru ymfalchio ynddo.

Ein pwrpas yw darparu gwasanaethau trafnidiaeth gynaliadwy sy’n cadw Cymru i symud.

 

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol llawn yma

 

 

Datganiad y Cadeirydd | Scott Waddington

"Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o heriau a newidiadau i Trafnidiaeth Cymru unwaith eto. Rydyn ni wedi parhau i weithio gyda phartneriaid i ddarparu gwasanaethau drwy’r pandemig mewn ffordd sydd wedi galluogi ein cwsmeriaid i deithio mor ddiogel a dibynadwy â phosibl, gan flaenoriaethu llesiant cwsmeriaid a chydweithwyr.

Rydyn ni hefyd wedi parhau â’n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth Cymru wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol ac wrth barhau â’n rhaglenni adeiladu, gan gynnwys Metro De Cymru."

 

Datganiad y Prif Weithredwr | James Price

"Ein blaenoriaeth fel Trafnidiaeth Cymru yw sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r opsiwn hawsaf, mwyaf deniadol ac arferol i bobl Cymru. Rydyn ni’n creu’r set iawn o wasanaethau a chynnyrch ar gyfer y dyfodol ac yn cynyddu parodrwydd a gallu pobl i’w defnyddio.

Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni’r targedau uchelgeisiol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u pennu ar gyfer newid moddol ac i roi rhwydwaith trafnidiaeth i bobl Cymru y gallant fod yn falch ohono."

 

Cipolwg ar 2021/22