50% oddi ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn ystod gwaith trawsnewid y Metro

Wrth i ni barhau â’r gwaith o adeiladu Metro De Cymru, rhwng 29 Ebrill 2023 a diwedd Ionawr/dechrau Chwefror 2024, byddwn yn cau’r lein rhwng Pontypridd a Threherbert. er mwyn i ni allu cyflawni ein rhaglen waith fwyaf hyd yn hyn.

Yn ystod yr wyth mis, yn anffodus, fyddwn ni'n methu rhedeg ein trenau.

Byddwn yn rhedeg gwasanaeth bws yn lle trên ledled y Rhondda. Bydd hyn yn cynnwys gwasanaeth bws bob hanner awr, gyda gwasanaeth ysgol penodedig a 'gwasanaeth cyflym' yn ystod amseroedd brig yn y prynhawn.

Gwyddom y bydd hyn yn cael effaith fawr ar ein cwsmeriaid sy’n dibynnu ar ein gwasanaeth rheilffordd ar hyd y lein hon. Er mwyn helpu cwsmeriaid drwy’r cyfnod hwn o aflonyddwch, rydym yn cynnig Cerdyn Rheilffordd Cwm Rhondda i bob cwsmer sy’n defnyddio gorsafoedd rhwng Treherbert a Threhafod, a fydd yn rhoi’r hawl i gwsmeriaid gael 50% oddi ar deithio yn ystod y cyfnod hwn o darfu.

Gellir casglu'r tocyn trên o swyddfa docynnau gorsaf y Porth o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 06:00 a 13:00, neu drwy ffonio ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03333 211 202.

 

  • Amodau defnyddio
      • Mae Tocyn Trên Rhondda yn cynnig 50% oddi ar Bris Tocyn Safonol gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar deithiau o orsafoedd gan gynnwys Treherbert a Threhafod a rhyngddynt.
      • Rhaid bod gan ddefnyddwyr orsafoedd tarddiad/cyrchfan rhwng ac yn cynnwys Treherbert a Threhafod, ac efallai y gofynnir iddynt ddarparu prawf o gyfeiriad i ddilysu tocynnau.
      • Mae’r tocyn trên yn ddilys tan ddiwedd mis Chwefror 2024 o’r dyddiad y caiff ei brosesu a dim ond ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar lwybrau lleol y gellir ei ddefnyddio.
      • Mae'r tocyn trên hwn yn berthnasol ar deithiau sy'n gyfan gwbl ar reilffordd Treherbert a theithiau rhwng gorsafoedd ar y rheilffordd a gorsafoedd yr holl ffordd i Gaerdydd Canolog.  Nid yw'r tocyn yn ddilys i deithio o orsafoedd y tu allan i ardal llwybr Treherbert a Threhafod.
      • Rhoddir pob tocyn yn unol ag Amodau Teithio National Rail ac nid oes modd eu trosglwyddo.
      • Ni ellir newid tocyn trên sydd wedi'i golli neu ei ddifrodi.
      • Nid yw'r tocyn trên hwn yn ddilys oni bai ei fod wedi'i lofnodi gan y deiliad, ac nid yw ychwaith yn drosglwyddadwy i unrhyw un arall.  Mae tocynnau a brynir gyda cherdyn rheilffordd at ddefnydd deiliad y cerdyn rheilffordd yn unig.
      • Nid yw'r tocyn trên hwn yn eiddo i chi ac os gofynnir amdano rhaid ei roi i Trafnidiaeth Cymru.
  • Dilysrwydd tocynnau gostyngol
      • Caniateir teithio o fewn dilysrwydd arferol y tocynnau a roddir ar yr amod y cedwir cerdyn rheilffordd dilys ac y gellir ei ddangos ar gais.
      • Dim ond ar gyfer teithio ar wasanaethau a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru ar reilffordd Treherbert yn unig y mae tocynnau gostyngol yn ddilys ac nid ydynt yn ddilys pan ddaw'r cerdyn rheilffordd i ben.
      • Yn ogystal ag amodau'r Cerdyn Rheilffordd, mae Amodau Teithio'r Rheilffyrdd Cenedlaethol yn berthnasol i unrhyw daith ar rwydwaith y rheilffyrdd.  Lle mae’r NRCoT yn gwrthdaro ag amodau’r Cerdyn Rheilffordd, bydd NRCoT yn diystyru Amodau’r Cerdyn Rheilffordd.  Mae copïau o’r NRCoT ar gael ar-lein yn nationalrail.co.uk/nrcot neu gan staff yn ein gorsafoedd.