
Beth sy'n digwydd yng Nghymru
Beth fydd y newidiadau hyn yn ei olygu i chi
Peidiwch â theithio os ydych chi’n teimlo’n sâl.
Pan fyddwch yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus;
Helpwch ni i gadw’r rhwydwaith mor ddiogel â phosibl drwy ddilyn ein Canllawiau Teithio’n Saffach
Gallwch chi weld canllawiau Llywodraeth Cymru yma.
O 12 Ebrill 2021, mae cyfyngiadau teithio wedi'u codi yng Nghymru gan ganiatáu ar gyfer teithio rhwng Cymru a gweddill y DU neu'r Ardal Deithio Gyffredin ehangach (Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel).
Gallwch weld y canllawiau diweddaraf ar deithio y tu allan i Gymru yma.
Ar 12 Ebrill 2021, cododd Llywodraeth y DU y cyfyngiadau teithio hanfodol yn Lloegr hefyd, gan ganiatáu ar gyfer teithio rhwng Lloegr a gweddill y DU a gweddil yr Ardal Deithio Gyffredin ehangach.
Fodd bynnag, bydd angen i chi wirio'r cyfyngiadau sydd ar waith yn yr ardal yr ydych yn teithio oddi wrthi neu iddi gan fod cyfyngiadau teithio ar waith mewn rhai gwledydd yn yr Ardal Deithio Gyffredin. Gall hyn eich atal rhag teithio oni bai bod gennych esgus rhesymol, er enghraifft, teithio i'r gwaith neu i gael addysg.
Os ydych chi’n teithio rhwng Cymru a rhan arall o'r DU, bydd angen i chi ddilyn y canllawiau ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn cynghori yn erbyn teithio’n ddiangen i rannau eraill o’r DU sydd â lefelau uwch o’r coronafeirws er mwyn helpu i reoli lledaeniad y feirws.
Llai o wasanaethau bysiau a threnau
Cofiwch gynllunio ymlaen llaw a gwneud eich gwaith cartref cyn teithio
Bydd llai o wasanaethau trên yn rhedeg er mwyn helpu i gadw’r staff a’r rheini sydd angen gwneud teithiau hanfodol mor ddiogel â phosibl.
Os ydych chi’n teithio ar drên, defnyddiwch ein gwiriwr capasiti
Mae llai o wasanaethau bws eisoes yn rhedeg.
Os ydych chi’n teithio ar fws, ewch i wefan eich gweithredwr bws lleol i gael rhagor o wybodaeth. Mae rhestr o weithredwyr lleol ar gael yma.