Birmingham

Yn fwrlwm o ddiwylliant ac amrywiaeth, mae Birmingham yn lle delfrydol ar gyfer ymweliad dydd neu benwythnos.

Mae ail ddinas fwyaf y DU yn llawn amgueddfeydd ac orielau, adloniant o'r radd flaenaf, a chanolfannau siopa. Gallwch fwynhau bwyd a diod anhygoel yn un o nifer o fwytai neu fariau a bragdai crefft ffasiynol Birmingham.

 

Teithio i Birmingham ar y trên

Gallwch deithio i Birmingham ar y trên o lawer o orsafoedd tren yng Nghymru a'r Gororau. Dyma rai o'r llwybrau mwyaf poblogaidd ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru i Birmingham:

 

Pam ymweld â Birmingham?

Gyda'i gamlesi di-ri, canolfannau siopa a diwylliant cyfoethog, mae Birmingham yn ddinas wych ar gyfer gwyliau penwythnos.

Beth am fynd am dro o amgylch Jewellery Quarter hanesyddol? Fe'i disgrifir gan English Heritage fel 'trysor cenedlaethol' lle gallwch ddod o hyd i grefftwyr meistr sy'n gwneud darnau hardd o emwaith sy'n disgleirio. Neu os ydych chi'n chwilio am fwy o ddiwylliant a hanes mae yna amrywiaeth wych o amgueddfeydd ac Oriel Gelf i fwynhau gydag arddangosfeydd a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.

A chofiwch flasu'r danteithion bwyd rhagorol sydd gan Birmingham i'w cynnig. Fe welwch ddigonedd o wahanol fwydydd i ddewis ohonynt gan gynnwys bwydydd Tsieineaidd, Groegaidd, Eidalaidd ac o Ethiopia. Gallwch hefyd ddod o hyd i lawer o fwytai Indiaidd rhagorol yn y Triongl Balti. Ac os ydych chi'n chwilio am rywbeth arbennig i ddilyn, beth am geisio dod o hyd i un o fariau rhagorol Birmingham?

  • Mae NEC Birmingham yn arena fyd-enwog sy'n cynnal y digwyddiadau, yr arddangosfeydd a'r perfformiadau gorau trwy gydol y flwyddyn.
  • Mae Cadbury World yn ddiwrnod allan hwyliog a blasus. Ewch y tu ôl lenni cwmni gwneud siocled byd enwog a mynd ar daith yno neu roi cynnig ar  wneud siocled.
  • Mae'r Acwariwm Bywyd Môr Cenedlaethol yn Birmingham yn antur ddŵr i'r teulu cyfan ei mwynhau. O archebu ymlaen llaw ar-lein gallwch arbed hyd at 40% ar bris mynediad.