Tref farchnad mae'n rhaid i unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf, natur, comedi neu ffordd gynaliadwy o fyw ymweld â hi
Saif Machynlleth ar ben aber afon Dyfi yn Sir Drefaldwyn, Powys. Gelwir y dref yn 'hen brifddinas Cymru' gan mai yn y fan hon y cynhaliodd Owain Glyndŵr ei Senedd yn 1404.
Gwerth eu gweld
- MOMA Machynlleth - Mae Amgueddfa Celf Fodern Machynlleth wedi'i lleoli yn y Tabernacl, eglwys Wesleaidd wedi'i haddasu. Mae sioeau o Gelf Gymreig Fodern ac arddangosfeydd gydol y flwyddyn, ac yma y cynhelir Gŵyl Gomedi Machynlleth.
- Canolfan y Dechnoleg Amgen - dyma elusen addysgol sy'n ymchwilio i atebion cadarnhaol ar gyfer newid amgylcheddol. Mae'n cynnig arddangosfeydd ymarferol, enghreifftiau o adeiladau sy’n gyfrifol o safbwynt yr amgylchedd, ynni adnewyddadwy, gweithgareddau i deuluoedd ar eu gwyliau, ac mae’n gallu cynnig cyngor i ddeiliaid tŷ ar beth mae modd iddynt ei wneud yn eu cartrefi eu hunain.
- Canolfan Owain Glyndŵr - Mae'r ganolfan hon yn sefyll ar hen safle Senedd Owain Glyndŵr, lle coronwyd ef yn Dywysog Cymru. Mae'n cynnwys arddangosiadau ac arddangosfeydd rhyngweithiol am fywyd Owain.
Penwythnos ym Machynlleth
Gŵyl Gomedi Machynlleth - mae'r ŵyl hon yn denu digrifwyr ac ymwelwyr o bob cwr o'r DU i'r dref farchnad fach hon am benwythnos bob mis Mai. Boed yn berfformwyr profiadol yn rhoi cynnig ar ddeunydd newydd, neu'n bobl sydd megis dechrau ar eu taith gomedi, mae rhywbeth i bawb yno.
Beicio mynydd - Mae Machynlleth yn lle gwych ar gyfer beicio mynydd. Ceir llwybrau amrywiol sy'n addas i bawb waeth beth fo'u gallu. Mae pob un yn agos i'r dref ac yn cynnig golygfeydd godidog.
Labrinth y Brenin Arthur - Enillydd yr Atyniad Gorau i Ymwelwyr yng Nghanolbarth Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn 2018. Mae Labrinth y Brenin Arthur yn weithgaredd llawn hwyl i'r teulu cyfan.
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-