Bute Park

10 Prif Drysor Cudd y DU

Parc / Gardd Lleoliad Sgôr
Parc Bute Caerdydd 100
Parc Sutton Birmingham 94.4
Prosiect Eden Cernyw 92.8
Parc Holyrood Caeredin 89.0
Parc Crystal Palace Llundain 88.7
Gerddi Princes Street Caeredin 88.5
Parc Saltwell Gateshead 86.0
Parc Williamson Caerhirfryn 84.9
Hampstead Heath Llundain 84.3
Lower Gardens Bournemouth 83.3

Mae’r DU yn enwog am lawer o bethau, ee pysgod a sglodion a’r teulu brenhinol neu gefn gwlad, tirnodau hanesyddol a mannau prydferth anhygoel. Boed law neu hindda, mae pobl sy’n hoffi natur yn y DU bob amser yn chwilio am rywle newydd i fwynhau taith gerdded gyda theulu a ffrindiau, gyda choffi a chacen flasus i ddilyn.

Mae ein harbenigwr wedi casglu data o 50 o barciau a gerddi ledled y DU, i lunio rhestr o drysorau cudd y mae’n rhaid ymweld â nhw yn y DU. Gan sgorio pob trysor cudd ar sail ei sgôr gyfartalog, faint o heulwen mae’n ei gael, yr ansawdd aer gorau a hefyd nifer y caffis a’r bwytai ar bob safle.

Wrth wneud hynny, rydym ni wedi llunio rhestr o brif drysorau cudd y DU. Dewch o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eich taith nesaf isod.

 

1. Parc Bute - Caerdydd

Mae Parc Bute, y tu ôl i Gastell Caerdydd, yn safle baner werdd ac yn barc rhestredig Gradd 1. Yn gartref i amrywiaeth o atyniadau, gan gynnwys llwybr gweithgareddau natur, Camlas Bwydo’r Doc, cychod gwenyn a detholiad eang o gaffis, mae digon i’w wneud i fwynhau diwrnod llawn gyda’r teulu cyfan. Ochr yn ochr â’r prif atyniadau, mae digon o ddigwyddiadau i’w mwynhau drwy gydol y flwyddyn hefyd. Yn ôl ein mynegai, mae gan Barc Bute sgôr cyfartalog o 4.7, mae ganddo bedwar bwyty ar y safle ac mae ganddo saith gwasanaeth bws ac un gwasanaeth rheilffordd gerllaw. 

 

2. Parc Sutton - Birmingham

Mae Parc Sutton yn warchodfa natur genedlaethol 2400 erw, 6 milltir o ganol dinas Birmingham. Mae’r parc yn gartref i rostir agored, coetiroedd, saith llyn, gwlyptiroedd a chorsydd, pob un â’i amrywiaeth doreithiog ei hun o blanhigion a bywyd gwyllt. Mae dau faes chwarae i blant eu mwynhau, ochr yn ochr â nifer o fwytai a hyd yn oed lloches i fulod. Mae ganddo sgôr Google cyffredinol o 4.7, a phedwar bwyty ar y safle. Hefyd, mae pum gwasanaeth bws ac un gwasanaeth trên yn rhedeg gerllaw, felly mae’n hawdd iawn cyrraedd o wahanol rannau o’r wlad. Ydych chi eisiau mynd ar daith y penwythnos hwn?

 

3. Prosiect Eden - Cernyw 

Mae Prosiect Eden yn ardd arbrofol fyd-enwog sydd wedi dod yn atyniad hanfodol i’r rheini sy’n ymweld â Chernyw. Mae’r biomau dan do a’r gerddi awyr agored yn gorchuddio 30 erw o dir ac yn cymryd tua phedair awr i’w harchwilio. Mae digon o bethau i’r teulu cyfan eu mwynhau ar ddiwrnod allan ym Mhrosiect Eden , gan gynnwys y biom coedwig law, y gerddi awyr agored, maes chwarae byd natur a mwy. Mae Prosiect Eden yn lle perffaith i’ch plant gael hwyl a dysgu hefyd. Yn sgorio 4.3 ar raddfa Google, mae ganddo 5 caffi a bwyty ar y safle felly mae digon o ddewis. Mae chwe gwasanaeth bws ac un gwasanaeth rheilffordd yn rhedeg gerllaw hefyd, felly mae’n hawdd iawn cyrraedd yno os ydych chi yn yr ardal. 

 

4. Parc Holyrood - Caeredin

Parc Holyrood yw’r parc mwyaf yng Nghaeredin ac mae’n enwog am ei olygfeydd godidog a’i hanes cyfoethog. Dim ond taith gerdded fer o ganol y ddinas. Mae’r parc yn gartref i’r Sedd Arthur enwog, sydd, ar ôl taith gerdded serth, yn cynnig golygfa odidog o’r ddinas. Gallwch chi hefyd weld caer fawr os oes gennych chi ddiddordeb mewn ychydig o hanes pan fyddwch chi yno. Mae ganddo sgôr o 4.8 ar Google ac ansawdd aer anhygoel, a gallwch chi sicrhau eich bod chi’n cael digon o awyr iach tra byddwch chi yno. Hefyd, mae saith gwasanaeth bws yn pasio heibio ac un gwasanaeth trên, felly mae’n hawdd iawn cyrraedd yno lle bynnag rydych chi yn y DU.

 

5. Parc Crystal Palace - Llundain 

Mae Parc Crystal Palace yn elusen annibynnol dan arweiniad y gymuned. Yn ne-ddwyrain Llundain, mae’n barc gradd 2 gyda thoreth o ddigwyddiadau a phethau i’w gwneud drwy gydol y flwyddyn. Mwynhewch ddysgl Crystal Palace, ewch ar goll yn y ddrysfa neu ewch â’ch plant bach i weld y cerfluniau dinosoriaid mawr sydd wedi’u lleoli ar ochr Penge o’r parc. Yn cael sgôr o 4.5 ar Google, mae gan y parc ddau gaffi os ydych chi’n teimlo’n llwglyd, ynghyd â phum gwasanaeth bws a dau wasanaeth trên sy’n rhedeg gerllaw, felly mae’n hawdd iawn cyrraedd yno. 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

A post shared by J & L Gibbons (@jlg_london)

 

6. Gerddi Princes Street - Caeredin

Yn barc trefol cyfannol yng Nghaeredin, mae Gerddi Princes Street yng nghanol y ddinas hanesyddol. Yn gwahanu’r hen dref oddi wrth y dref newydd, mae’n gartref i 37 erw o dir a chofeb Ross Fountain, lle mae llawer o bobl leol yn cwrdd ac yn mwynhau’r heulwen yn yr haf. Bob blwyddyn, mae’r gerddi hefyd yn cynnal Marchnadoedd Nadolig eiconig Caeredin, pan fydd y gerddi’n llawn reidiau ffair, stondinau a bwyd blasus ac arogl Nadoligaidd. Mae’r gerddi’n cael sgôr o 4.6 ar Google ac mae ganddyn nhw sgôr ansawdd aer rhagorol, ynghyd â naw gwasanaeth bws yn rhedeg gerllaw, felly mae’n hawdd iawn cyrraedd atyn nhw os ydych chi’n byw ger y ddinas. 

 

7. Parc Saltwell - Gateshead

Wedi’i leoli yn Gateshead, tref fechan ger Newcastle yng ngogledd ddwyrain Lloegr, mae Parc Saltwell yn barc baner werdd hanesyddol sydd â llawer o bethau i’w mwynhau, gan gynnwys dau barc i blant, parc cŵn, Tyrrau Saltwell a digonedd o lwybrau rhedeg yn yr ardal i’r rheini sy’n hoff o loncian. Hefyd, mae cyrtiau pêl-fasged a chyfleusterau tenis ar gyfer y rheini sydd eisiau mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr awyr agored. Mae’r parc yn cael sgôr o 4.7 seren ar Google ac mae ganddo ddau gaffi os ydych chi’n llwglyd neu eisiau coffi i roi hwb i’ch taith gerdded. Mae pum gwasanaeth bws sy’n rhedeg gerllaw, ac un llwybr rheilffordd, felly mae’n hawdd iawn cyrraedd yno hyd yn oed os nad ydych chi’n lleol i’r ddinas.

 

8. Parc Williamson - Caerhirfryn 

Yng Nghaerhirfryn, mae Parc Williamson yn cynnwys 54 erw o barcdir hardd a llwybrau cerdded yn y coetir hudolus. Yn gartref i Gofeb Ashton, mae digonedd o bethau i’w gweld a’u gwneud, ochr yn ochr â golygfeydd godidog o Fae Morecambe. Y tu mewn i’r parc, fe welwch chi sŵ fach a thŷ pili-pala sy’n ffordd wych o dreulio prynhawn gyda’r plant bach, ynghyd â chaffi’r pafiliwn. Mae’r parc hardd hwn yn cael sgôr o 4,7 ar Google ac amcangyfrifir ei fod yn cael 4 awr o heulwen bob dydd, felly mae’n berffaith ar gyfer cael ychydig o fitamin D. Mae chwe gwasanaeth bws a dau wasanaeth trên yn pasio gerllaw, felly mae’n hawdd iawn cyrraedd yno os ydych chi’n lleol i’r ardal ai peidio.

 

9. Hampstead Heath - Llundain 

Ym mharth 2 gosmopolitaidd gogledd Llundain, fe ddewch chi o hyd i baradwys Hampstead Heath. Yn ymestyn dros 800 erw, mae’n gartref i olygfeydd godidog, cyfoeth o hanes ac, yn bwysicaf oll, y pyllau nofio eiconig. Dyma’r lle perffaith i ddianc rhag bwrlwm bywyd yn Llundain a mwynhau darllen, nofio neu gael picnic gyda ffrindiau. Mae digon o dafarndai a chaffis gerllaw hefyd lle gallwch chi alw draw i gael lluniaeth pan fyddwch chi’n gadael. Mae Hampstead Heath yn cael sgôr o 4.7 ar Google ac mae’n cael pedair awr o heulwen bob dydd ar gyfartaledd. Fodd bynnag, dim ond un gwasanaeth bws sydd ar gael gerllaw, ond mae dau wasanaeth trên, gan gynnwys y tiwb, felly mae’n hawdd iawn cyrraedd yno os ydych chi’n byw yn y ddinas.

 

10. Lower Gardens - Bournemouth 

Dim ond pum munud ar droed o brif ardal siopa’r ddinas, mae Lower Gardens yn barc rhestredig gradd dau sydd wedi ennill gwobrau yng nghanol Bournemouth. Yn gartref i ddetholiad o arddangosfeydd blodeuol hardd a bandstand eiconig Pine Walk, dyma’r lle perffaith i fynd am dro os ydych chi yn yr ardal, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Nid yw’r gerddi’n brin o weithgareddau, chwaith, diolch i’r cwrs golff bach ac arddangosfeydd celf sy’n cael eu cynnal ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Os byddwch chi’n ymweld yn ystod y Nadolig, byddwch chi’n rhyfeddu at yr addurniadau hyfryd, y llwybr Nadolig a’r gweithgareddau i ddiddanu’r teulu cyfan am brynhawn llawn hwyl gyda’ch gilydd. Mae Lower Gardens yn cael sgôr Google o 4.6 ac mae dau fwyty ar y safle. Os ydych chi’n byw’n lleol, mae chwe gwasanaeth bws gerllaw, ynghyd ag un gwasanaeth trên os ydych chi’n byw mewn rhannau eraill o’r DU. 

 

Dyma’r 10 prif drysor cudd yn y DU. Gallwch chi gyrraedd llawer ohonyn nhw mewn car neu ar droed os ydych chi’n byw yn yr ardal, ond mae digonedd o lwybrau trên hefyd y gallwch eu defnyddio i gyrraedd yno gyda Trafnidiaeth Cymru. Prynwch eich tocynnau ar-lein heddiw a fydd dim rhaid i chi datu ffioedd archebu.