Dewch i ddarganfod Birmingham, dinas sy’n llawn egni, creadigrwydd a digon o ryfeddodau. O siopau annibynnol a bariau ar ochr y gamlas i atyniadau enwog, adloniant byw a sîn bwyd gyda’r mwyaf amrywiol y DU, mae digon i lenwi eich ymweliad.
Mae’n gartref i siocled Cadbury, man geni cerddoriaeth metel trwm, gyda chysylltiadau cryf â J.R.R. Tolkien. Mae gan Birmingham stori i’w hadrodd ym mhob cornel bron.
Ble mae Birmingham?
Mae Birmingham yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, calon Lloegr. Dyma’r ddinas fwyaf yn y rhanbarth ac mae wedi’i chysylltu’n dda â chyrchfannau ledled Cymru a gweddill y DU. Mae tua 120 milltir o Lundain.
Mae Birmingham yn rhan o sir fetropolitan Gorllewin Canolbarth Lloegr, ochr yn ochr â Wolverhampton, Coventry a Solihull.
Pam ymweld â Birmingham?
Mae gan Birmingham rywbeth ar gyfer pob math o ymweliad. Archwiliwch yr Ardal Gemwaith, mwynhewch fwyd stryd a lleoliadau annibynnol yn Digbeth neu porwch drwy siopau yn y Bullring & Grand Central.
Nid yw hanes a diwylliant byth yn bell i ffwrdd. Ewch i Amgueddfa ac Oriel Gelf Birmingham, trochi eich hun yn Amgueddfa Fyw y Wlad Ddu neu fwynhau cyngerdd yn Symphony Hall.
Ar gyfer rhywbeth ychydig yn arafach, cerddwch ar hyd camlesi eiconig y ddinas, archwiliwch Gerddi Botanegol Birmingham neu dreuliwch amser yn crwydro Parc Cannon Hill.
Ydych chi’n barod am sioe siocled? Bydd y teulu cyfan wrth eu bodd â swyn Cadbury World.
Sut mae cyrraedd Birmingham ar y trên
Mae lleoliad Birmingham yng nghanol Lloegr yn ei gwneud yn hawdd cyrraedd yno ar y trên. Mae Birmingham New Street yn eich rhoi yng nghanol y ddinas, o fewn pellter cerdded i Bullring & Grand Central a llawer o siopau, bwytai ac atyniadau Birmingham.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cysylltu Birmingham â chyrchfannau ledled Cymru a’r Gororau, ac mae Birmingham International yn darparu mynediad rheilffordd i Faes Awyr Birmingham a’r NEC.
Defnyddiwch ein cynllunydd teithiau i wirio amseroedd trenau byw a phrynu eich tocynnau ar ein ap neu wefan cyn i chi deithio.
Mae’r llwybrau poblogaidd yn cynnwys:
- Caerdydd i Birmingham
- Abertawe i Birmingham
- Caer i Birmingham
- Amwythig i Birmingham
- Wrecsam i Birmingham
- Aberystwyth i Birmingham
Cynllunio eich ymweliad â Birmingham
Ydych chi’n barod i weld beth sydd gan Birmingham i’w gynnig? Cynlluniwch eich taith gyda ni a mwynhewch bopeth o siopa a diwylliant i fwyd, adloniant ac atyniadau teuluol.
I gael rhagor o ysbrydoliaeth, gan gynnwys pethau i’w gwneud, llefydd i aros a beth sy’n digwydd yn ystod eich ymweliad, ewch i Visit Birmingham.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Dewch o hyd i'ch Caer Dewch i ddarganfod Find your Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-