Mae tref glan môr gaerog Dinbych-y-pysgod wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid ers blynyddoedd lawer. Wedi'i gysgodi rhag cefnfor llym yr Iwerydd a Môr Iwerddon, roedd yn lle naturiol i'r Llychlynwyr ymgartrefu yn y 9fed ganrif. Yn y 1100au, goresgynnodd y Normaniaid, gan adeiladu muriau amddiffynnol y dref a'r castell ym 1158. Sicrhaodd harbwr Dinbych-y-pysgod bwysigrwydd economaidd y dref i Gymru gyda'i hallforion yn cynnwys glo, haearn, gwlân, a chrwyn, ac ym 1566, mwynhawyd orennau o Bortiwgal am y tro cyntaf yng Nghymru.
Gan ddenu ymwelwyr o bob rhan o’r byd, mae gan Ddinbych-y-pysgod waliau sydd wedi’u cynnal yn dda hyd heddiw, ac mae’n adnabyddus am ei thai o Oes Fictoria sydd wedi’u paentio’n ogoneddus, ei diwydiant crefftau a’i thraethau cyfeillgar i deuluoedd. Mae gan yr orsaf reilffordd, yng nghanol y dref, wasanaeth trên rheolaidd, ac mae llawer o leoedd i aros, o wely a brecwast clyd i westai cyfforddus.
1. Adeiladu Cestyll Tywod ar Draeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod
Gyda thri thraeth tywodlyd hardd i ddewis ohonynt, Traeth y Gogledd sy'n cynnig y mwyaf. Mae’n gildraeth hyfryd gwarchodol gyda’r llanw i mewn, ond pan fydd y môr yn cilio, mae’r tywod meddal yn ymestyn am ddwy filltir gan ymuno â Thraeth y De. Mae Traeth y Gogledd yn agos at y dref gyda'i holl fwynderau ac mae ganddo fynediad da ar gyfer pawb.
Nid yn unig enillodd Draeth y Flwyddyn y Sunday Times, ond mae Traeth y Gogledd hefyd wedi cael statws baner las, sy'n golygu ei fod yn cael ei gydnabod am ei ansawdd dŵr, diogelwch a rhaglen amgylcheddol. Mae yna hefyd wasanaeth achubwyr bywyd rheolaidd, sy'n ychwanegu at ei boblogrwydd gyda rhieni plant ifanc.
Ychydig oddi ar y traeth, mae Craig y Santes Catrin yn codi o’r môr. Yn ynys ar lanw, mae’r graig yn gartref i gaer Napoleonaidd a adeiladwyd yn 1867 ac sy’n enwog am ei bywyd gwyllt morol a’i phlanhigion. Dysgwch am hanes hynod ddiddorol yr ynys ar daith y gellir ei harchebu yn Ninbych-y-pysgod.
- Perffaith ar gyfer hwyl i'r teulu
- Traeth Baner Las
- Gwefan Traeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod
2. Archwiliwch y Parc Deinosoriaid
I gael profiad cwbl unigryw, mentrwch i'r coed o amgylch Dinbych-y-pysgod. Yno fe welwch ddeinosoriaid gwyllt, ffyrnig yn cuddio o amgylch pob cornel, neu'n chwalu trwy'r coed wrth hela eu cinio. Mae’r Parc Deinosoriaid yn darparu diwrnod allan delfrydol i edmygwyr deinosoriaid.
Trwy’r goedwig clychau’r gog, ac ar draws nentydd clir fel grisial, bydd tywyswyr yn eich cyflwyno i’r deinosoriaid mwy cyfeillgar, fel y Brachiosaurus sy’n bwyta planhigion a’r Triceratops hoffus.
Mae gan y parc ddigonedd o atyniadau eraill hefyd, gan gynnwys ceir corwynt, cychod disgo, tractorau a thrampolinau nerthol. Mae'r Ribcage Cafe ar y safle yn cynnig prydau a byrbrydau ffres blasus, ac mae'r siop yn llawn anrhegion, llyfrau a mwy.
P'un ai ydych chi'n edmygwyr deinosoriaid neu os oes gennych chi blant na allant gael digon o'r madfallod cennog, mae'n rhaid ymweld â’r Parc Deinosoriaid.
- Mwynhewch antur deinosoraidd
- Tocynnau o £12.95
- Gwefan Parc Deinosoriaid
3. Ewch yn Wyllt ym Mharc Bywyd Gwyllt y Faenor
Mae Parc Bywyd Gwyllt y Faenor, sy’n ymestyn dros fwy na 52 erw, yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Dinbych-y-pysgod, ac mae’n cael ei gydnabod yn eang fel un sydd â rhai o’r prosiectau bridio caeth gorau yn y wlad. Mae’r pâr o deigrod Swmatraidd sydd mewn perygl enbyd yn rhan o’r Rhaglen Rhywogaethau Mewn Perygl Ewropeaidd, ac ynghyd â phrosiect bridio caeth y rheinoseros gwyn, yn arddangos ethos cadwraeth cryf y sw.
Nodwedd o'r sw yw ei arddangosion y medrir ymlwybro drwyddynt. Mae hyn yn galluogi ymwelwyr i fod yn agos ac yn bersonol gyda'r anifeiliaid. Mae rhannu cinio lemwr, eistedd yng nghanol y walabïod, mwytho pandas coch a dal dwylo gyda giboniaid oll yn gwneud Parc Bywyd Gwyllt y Faenor yn unigryw ym myd y sŵau. Gyda phedair rhywogaeth o lemwriaid, mwncïod, sebras a meerkatiaid, mae rhywbeth yn digwydd bob eiliad.
Mae cyfleoedd i fabwysiadu eich hoff anifail gyda diweddariadau rheolaidd, lluniau a theganau meddal. Mae hyn yn helpu i ariannu cadwraeth hanfodol yr anifeiliaid hyn yn y gwyllt. Mae gan y sw atyniadau eraill, gan gynnwys castell neidio enfawr, mannau chwarae a chaffi ar y safle sy’n gweini prydau blasus wedi’u paratoi’n ffres.
- Profwch fywyd gwyllt y byd yma yng Nghymru
- Tocynnau o £15.95
- Parc Bywyd Gwyllt y Faenor
4. Mwynhewch wefr Parc Oakwood
Mae Parc Thema Oakwood yn ddiwrnod allan gwych. Yn wir, dyma barc thema mwyaf Cymru, ac mae’n bodloni ym mhob maes.
Ers iddo agor ar ddiwedd yr 80au mae wedi torri tir newydd, gan gymysgu cyffro llawn adrenalin ag awyrgylch cyfeillgar i deuluoedd yng nghanol prydferthwch Sir Benfro. Yn cynnwys traciau BMX a go-cart gwefreiddiol, profiad sinematig 3D, llithren ddŵr enfawr, a’r Megafobia 85 troedfedd o uchder (26 m) sydd wedi’i ethol ymhlith y roller coasters gorau yn Ewrop. Mae Vertigo - siglen awyr dalaf y DU, Drench a Speed – roller coaster Euro-Fighter Gerstlauer gyda chwymp syfrdanol o 97 gradd, yn golygu nad oes diwedd ar y cyffro.
Gyda dim llai na phum roller coaster, pedair reid ddŵr, ac 17 o reidiau eraill i'w mwynhau, mae'r parc hefyd yn cynnwys ardal ar gyfer plant llai yn unig. Mae'r atyniadau yma wedi'u cynllunio i ysgogi ac annog plant i archwilio, dysgu a chwarae gyda'i gilydd. O Long Môr-leidr Jolly Roger i ardal chwarae meddal enfawr, darperir ar gyfer hyd yn oed y plentyn ieuengaf heb i rieni orfod poeni.
- Y parc thema mwyaf yng Nghymru
- Reidiau anhygoel a roller coasters i'r teulu cyfan
- Gwefan Parc Thema Oakwood
5. Dewch i gwrdd â meerkatiaid a llewod grymus yn Folly Farm
Yn ddwfn yng nghanol Sir Benfro, yng Nghilgeti, mae Cymru’n trawsnewid i’r Safana Affricanaidd, lle mae llewod yn crwydro, rhinos yn ymdrochi a jiraffod yn crwydro. Heb fod yn rhy bell o diroedd gwyllt Affrica, gallwch brofi'r gorau sydd gan Asia i'w gynnig, gan gynnwys pandas coch del a blewog, cathod llewpart, a phelicaniaid gyda’i pigau hirion.
Ond gyda 120 erw o hwyl, mae Folly Farm yn cynnig cymaint mwy. Ochr yn ochr â’r 250 o anifeiliaid egsotig, gallwch gwrdd ag anifeiliaid fferm, gan gynnwys perchyll â’u gwichian, geifr, merlod, a chwningod. Gydag ieir, alpacas, a hyd yn oed tylluanod gwyn hardd, mae yna anifeiliaid di-rif yma, ac ar ôl i chi gael eich digoni gan y rhai fflwfflyd, beth am fynd i un o'r wyth man chwarae antur neu'r ffair?
Mae eich hoff reidiau i gyd yma – mae 17 o reidiau gwahanol yn y ffair hen-ffasiwn gan gynnwys olwyn fawr enfawr, meri-go-rowndiau, ceir taro a llawer mwy.
Gan ei bod yn aelod o Gymdeithas Sŵau ac Acwaria Prydain ac Iwerddon (BIAZA) a Chymdeithas Sŵau ac Acwaria Ewrop (EAZA), mae Folly Farm yn chwarae rhan bwysig mewn cadwraeth, ac os dymunwch, trwy fabwysiadu eich hoff anifail, gallwch chithau hefyd helpu i warchod anifeiliaid yn eu hamgylchedd naturiol. Dim ond 1.3 milltir o orsaf reilffordd Cilgeti, mae'n ddiwrnod allan gwych i'r teulu cyfan.
- 120 erw o wylio bywyd gwyllt gyda 250 o anifeiliaid egsotig
- Sw fwytho gydag anifeiliaid fferm
- Mabwysiadwch eich hoff anifail
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-