Teithio'n hyblyg ac osgoi'r straen o ddefnyddio'r car

Pan fyddwch chi'n prynu bwndel o docynnau Multiflex, fe gewch 12 tocyn sengl am bris 11.

Mae'n ddelfrydol os ydych yn rhannu eich wythnos waith rhwng y cartref a'r swyddfa. Mwynhewch yr hyblygrwydd o allu teithio heb dagfeydd traffig a phroblemau parcio.

Nid oes angen teithio ‘yno ac yn ôl’ (yn wahanol i docynnau Dychwelyd) gyda Multiflex. Mae hyn yn golygu eich bod yn rhydd i deithio i'r naill gyfeiriad neu'r llall rhwng gorsafoedd ar unrhyw adeg o'r dydd.

Mae tocynnau Multiflex yn ddilys am dri mis.

 

Bydd angen ein ap arnoch

Tocynnau multiflex  tocynnau trên hyblyg unigryw i ap TrC. Bydd angen eu dilysu cyn eu defnyddio. Dim ond dewis Multiflex unwaith y byddwch wedi dewis y daith yr ydych am ei gwneud sydd ei angen.

App StoreGoogle Play

 

Arbed mwy gyda Multiflex

Nid oes unrhyw ffioedd archebu pan fyddwch yn prynu bwndel Multiflex. Gallwch wneud arbedion mawr ar gyfanswm cost eich teithiau. Er enghraifft:

Teithiau i'r ddau gyfeiriad rhwng Cost fesul taith
Caerdydd Canolog <> Radur £2.20
Caerdydd Canolog <> Caerffili £3.98
Caerdydd Canolog <> Pontypridd £3.98

 

PayPal in 3

Gallwch ledaenu cost eich tocyn trên trwy ddefnyddio PayPal in 3 os fyddwch yn gwario £30 neu fwy. Dewiswch ‘Talu gyda PayPal’ pan fyddwch yn cyrraedd y sgrin dalu a dilynwch y cyfarwyddiadau.

 

  • Telerau ac amodau
      • Mae Multiflex ar gael ar unrhyw lwybr o dan 50 milltir lle mae tocyn tymor 7 diwrnod sefydledig.

      • 12 taith sengl pwynt-i-bwynt union yr un fath ar gyfer teithio i'r ddau gyfeiriad.

      • Rhaid gweithredu pob tocyn i'w wneud yn ddilys ar gyfer teithio.

      • Mae gan Multiflex ddilysrwydd cyffredinol am dri mis calendr o'r dyddiad prynu.

      • Gellir gwneud pob un o'r deuddeg taith unigol ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod dilysrwydd.

      • Dim ond ar gyfer un siwrnai sengl y gellir actifadu a defnyddio pob tocyn y mae'n rhaid ei chwblhau o fewn 4 awr i'w actifadu.

      • Rhaid i gwsmeriaid deithio o darddiad i gyrchfan, ni chaniateir toriad taith, oni bai eu bod yn gadael y trên cyn yr orsaf ar ben y daith.

      • Ni ellir ad-dalu tocynnau multiflex.

      • Prisiau'n ddilys o 08/10/2024.