Mae tref farchnad hardd y Fenni wedi’i hamgylchynu gan fynyddoedd ac mae’n fan cychwyn gwych i archwilio Bannau Brycheiniog. Mae ganddi hefyd ddigonedd o atyniadau ei hun ac mae'n gyrchfan berffaith ar gyfer gwyliau penwythnos.
1. Dringwch Ben-y-fâl
Yn edrych dros y Fenni, mae Mynydd Pen-y-fâl yn wirioneddol ysblennydd. Wedi'i naddu allan o dywodfaen coch llawn haearn, mae'n hafan i fywyd gwyllt. Mae dewis o deithiau cerdded i’r copa, rhai’n fwy anodd nag eraill, lle byddwch chi’n cael eich gwobrwyo â’r olygfa fwyaf godidog o Fannau Brycheiniog, a De Orllewin Lloegr.
- Dringwch y copa enwog
- Archwiliwch gefn gwlad godidog
- Gwefan Pen-y-fâl
2. Mwynhewch flasu gwin yn Sugar Loaf Vineyards
Yn llechu wrth droed Mynydd Pen-y-fâl mae'r gwinllannoedd mwyaf prydferth y gallech eu dychmygu. Mae Sugar Loaf Vineyards yn cynnig blasu gwin, cyrsiau mewn gwerthfawrogi gwin ac amrywiaeth o brydau blasus yn y bwyty sy'n edrych dros y gwinllannoedd. Mae yna hefyd siop ar y safle sy’n gwerthu canhwyllau crefftus, sebonau, a’r siocledi Cymreig gorau i’w cael.
- Blasu gwin
- Llety ym mythynnod gwyliau Sugar Loaf Vineyard
- Gwefan Sugar Loaf Vineyards
3. Dysgwch am Gymru yn Amgueddfa'r Fenni
Mae’r castell yn gartref i gasgliad hynod ddiddorol o drysorau y mae Amgueddfa’r Fenni yn gofalu amdanynt. Er i nifer o adeiladau o fewn y castell gael eu dinistrio yn y Rhyfel Cartref yn ystod y 1640au, mae'r adeiladwaith mwy newydd - porthordy hela sy'n eiddo i Ardalydd y Fenni, yn gartref i'r amgueddfa.
Tra bod hanes Cymru ac yn arbennig y Fenni ei hun yn ganolbwynt i gasgliadau'r amgueddfa, mae yna arddangosfeydd o bell hefyd. Gyda phwyslais ar y ffordd wledig o fyw, mae yna hefyd ddarganfyddiadau archeolegol sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod Mesolithig, gan gynnwys arfwisgoedd Rhufeinig, arddangosfeydd astudiaethau natur, a llawer mwy. P’un ai ydych chi’n hoff o hanes ai peidio, mae’n werth ymweld â’r amgueddfa a’i chartref unigryw.
- Archwiliwch y castell a'r amgueddfa
- Hwyl am ddim i'r teulu cyfan
- Gwefan Amgueddfa'r Fenni
4. Mwynhewch Eich Hun yn y Farchnad
Mae Marchnad y Fenni yn denu ymwelwyr o bell ac agos a dyma’r fwyaf yng Nghymru gyfan. Cynhelir sawl math yn yr un lleoliad, gan gynnwys ffair sborion brysur, marchnadoedd hen bethau a chrefftwaith a marchnad ffermwyr draddodiadol.
Gyda dros 200 o stondinau, mae rhywbeth at ddant pob chwaeth, boed yn ddanteithion blasus, yn emwaith hardd neu’n nwyddau gwlân wedi’u gwneud â llaw, fe ddewch o hyd iddynt yma. Mae stondinau yn gwerthu bwyd stryd i siopwyr newynog, ac mae yna gaffis i orffwys a dal eich gwynt, neu i wylio'r byd yn mynd heibio. Mae cymaint yn digwydd yma, rydych chi wedi'ch difetha gan ddewis.
- Perffaith ar gyfer therapi siopa
- Prynwch eitemau crefft lleol a danteithion wedi’u gwneud â llaw
- Rhywbeth at ddant pob cyllideb
5. Canolfan Ymwelwyr Glanfa a Chamlas Goetre
Ar gyrion y Fenni mae Glanfa'r Goetre. Mae’n fan cychwyn gwych ar gyfer teithiau cerdded a beicio ar hyd Camlas Mynwy ac Aberhonddu, neu gallwch logi canŵ neu gwch camlas i deithio ar y dŵr. Mae yna gaffi clyd hefyd i fwynhau lluniaeth haeddiannol.
- Gwych i bobl sy'n hoff o hanes
- Cychod, pysgota, beicio a cherdded
- Llogwch gwch neu ganŵ
Mae’r Fenni yn gyrchfan wych ar gyfer gwyliau neu benwythnos hir. Gallwch ymlacio ymhell o bwysau bywyd bob dydd, ac os oes gennych chi blant, rydych chi'n gwybod y bydd digon i'w difyrru. Fyddan nhw ddim eisiau gadael.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti
-
Pethau hwyliog i'w gwneud yng Nghasnewydd y penwythnos yma Dewch i ddarganfod Fun things to do in Newport this weekend
-
Pethau i'w gwneud yng Nghanol Dinas Caerdydd Dewch i ddarganfod Things to do in Cardiff City Centre
-
Y gwyliau dinesig gorau yn y DU i gyplau: teithiau cerdded rhamantus yn Ynysoedd Prydain Dewch i ddarganfod romantic getaways in the British Isles
-