Tref farchnad hudolus yng nghanol Sir Fynwy - y lle perffaith i fwynhau cefn gwlad.
Caiff y Fenni ei hybu fel Porth i Gymru yn aml iawn, ac mae’n hawdd iawn gweld pam. Mae’r Mynyddoedd Duon, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Llwybr Clawdd Offa i gyd gerllaw. Ychwanegwch ŵyl fwyd fendigedig a Gŵyl y Dyn Gwyrdd yng Nglan-wysg, ac mae gennych chi’r lle perffaith i ymlacio.
Pethau i’w gwneud a’u gweld
Gŵyl Fwyd y Fenni - bydd miloedd o bobl yn heidio i'r Fenni bob blwyddyn ar gyfer yr ŵyl anhygoel hon, sydd wedi denu cogyddion enwog fel Hugh Fearnley-Whittingstall, Jamie Oliver, Monica Galetti, a Valentine Warner. Mae yna rywbeth at ddant pawb hefyd, gyda dosbarthiadau coginio a dosbarthiadau meistr, gweithgareddau i’r plant yn ogystal â chyfle i flasu cynnyrch, er mwyn hybu’r bwyd a’r cynnyrch gorau.
Cerdded ym Mannau Brycheiniog - mae’r Fenni yn lle delfrydol i fynd i heicio o amgylch Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma’r tri chopa agosaf i chi eu concro; Dinas-y-bwlch, y Blorens ac Ysgyryd Fawr.
Greenman festival - mae’r ŵyl gerddoriaeth a chelfyddydau annibynnol hon wedi bod yn cael ei chynnal yn ardal Bannau Brycheiniog ganol mis Awst bob blwyddyn ers 2003. Mae’r digwyddiad hwn, sy’n para pedwar diwrnod, yn cyflwyno’r gerddoriaeth roc, indi, gwerin ac amgen gorau yn fyw yn ogystal â llenyddiaeth, comedi a theatr. Dyma ŵyl wych i’r teulu cyfan.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti
-
Y deg atyniad gorau yn Abertawe Dewch i ddarganfod Top ten attractions in Swansea
-
Pethau hwyliog i'w gwneud yng Nghasnewydd y penwythnos yma Dewch i ddarganfod Fun things to do in Newport this weekend
-
Pethau i'w gwneud yng Nghanol Dinas Caerdydd Dewch i ddarganfod Things to do in Cardiff City Centre
-