Ewch ar y trên o Gaerdydd i'r Fenni a mwynhewch daith fwy hamddenol. Gyda gwasanaethau rheolaidd drwy'r dydd, teithiwch ar adeg sy'n gyfleus i chi.
Gyda’n tocynnau Advance gostyngol a’n Tocynnau cyfnodau tawelach, bydd gennych fwy i’w wario yn y Fenni. Caiff y dref hon ei hadnabod fel y porth i Gymru, mae ganddi ddigon i'w gynnig.
-
Wi-Fi am ddim
-
Pwyntiau gwefru
-
Uniongyrchol
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Gaerdydd i'r Fenni?
Mae'n cymryd tua 40 i 50 munud, yn dibynnu ar y gwasanaeth ac adeg y dydd. Mae'r llwybr yn uniongyrchol felly does dim angen newid trenau, sy’n ei gwneud yn opsiwn cyfleus i deithwyr.
Pam teithio o Gaerdydd i'r Fenni ar y trên?
Ar un adeg, roedd y Fenni yn gartref i gaer Rufeinig. Dros amser, cafodd ei thrawsnewid yn dref gaerog ganoloesol syfrdanol yng Ngororau Cymru. Gallwch weld gweddillion yr hanes hwn yn adfeilion y castell cerrig canrifoedd oed a adeiladwyd pan oresgynnwyd Cymru gan y Normaniaid.
Mae Castell y Fenni bellach yn amgueddfa, yn gartref i lawer o drysorau Cymreig a gemau cyfrinachol, o ddarnau arian Rhufeinig hynafol a ddarganfuwyd yn yr ardal i gelf a cherflunio Cymreig cyfoes. Gerllaw mae Eglwys Priordy'r Santes Fair, gyda'i ffenestri lliw hardd, delwau hynafol, ac awyrgylch oer a heddychlon.
Os ydych chi'n chwilio am fannau gwyrdd eang, cymerwch hoe fach ac ymlaciwch ym Mharc Bailey. Mae Castle Meadows hefyd yn opsiwn braf, gan ei fod yn gyfuniad perffaith o hanes ac ysblander naturiol.
O ydych chi’n chwilio am harddwch syfrdanol, ewch i Fynyddoedd Duon Cymru. Mae Ysgyryd Fawr wedi’i leoli i ogledd-ddwyrain y Fenni tra bod Mynydd Pen-y-fâl yn sefyll ar ochr ogledd-orllewinol y dref. Nhw yw rhai o'r safleoedd naturiol mwyaf syfrdanol y byddwch chi erioed yn ymweld â nhw.
Ni allai fod yn symlach archebu eich taith o Gaerdydd i’r Fenni gyda’n ap y gellir ei lawrlwytho. Mae'n gwneud prynu tocynnau'n hawdd ac yn rhoi gwybod i chi am ein cynigion diweddaraf a fydd yn arbed arian i chi.
Trenau o Gaerdydd Canolog
Trenau o Gaerdydd Canolog i Fanceinion
Trenau i’r Fenni
-
Y pum peth gwych gorau i'w gwneud yn y Rhyl Dewch i ddarganfod The top five brill things to do in Rhyl
-
Y llefydd gorau i fynd yn Llanelli - y tri phrif atyniad Dewch i ddarganfod The best places to go in Llanelli - top three attractions
-
Eglwys Newydd Dewch i ddarganfod Visiting Whitchurch
-