
Yn barod am antur Gymreig? Rydyn ni yma i'ch helpu chi i ddod o hyd i’r atyniadau gorau yn Ne Cymru. Mae gan y rhanbarth hwn rywbeth at ddant pawb, o ddyffrynnoedd gwyrdd tonnog sy'n llawn hanes i brofiadau dinas bywiog a modern. Y peth gorau? Rydyn ni'n ei gwneud hi'n hawdd gweld y cyfan. Osgowch anhrefn meysydd parcio a’r straen o draffig a gadewch i ni yrru drosoch chi.
Pam ymweld â De Cymru?
Profiad prifddinas: Mae gan ein prifddinas fywiog, Caerdydd, bopeth o gestyll i barciau gwyrddlas, chwaraeon, diwylliant a sîn fwyta boblogaidd.
Calon ddiwydiannol a diwylliannol: Darganfyddwch etifeddiaeth bwysig diwydiannau glo a haearn Cymru yn safleoedd UNESCO y cymoedd. Camwch i mewn i hanes byw yn Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan.
Parciau naturiol syfrdanol: Archwiliwch fawredd Bannau Brycheiniog a thraethau godidog, arobryn Penrhyn Gŵyr.
Teithio sy'n gweithio i chi: Drwy ddewis teithio ar y trên a'r bws, rydych chi'n gwneud dewis sy'n dda i'ch poced ac yn dda i'r blaned. Rydym yn eich cysylltu â'r lleoliadau gorau yn Ne Cymru.
Beth am ddefnyddio ein ap? Mae'n gadael i chi weld ein holl fargeinion teithio fforddiadwy mewn un lle.
Pum peth gorau i'w gwneud yn Ne Cymru
Rydyn ni wedi dewis pump o'r pethau gorau i'w gwneud yn Ne Cymru sy'n hawdd eu cyrraedd ar drên neu fws:
1. Castell Caerdydd: Wedi'i leoli yng nghanol y ddinas, mae'r castell anhygoel hwn yn dod â 2,000 o flynyddoedd o hanes yn fyw. Mae'n rhaid ei weld oherwydd ei du mewn addurnedig, ysblennydd a'r tŵr Normanaidd. Ewch oddi ar trên yng ngorsaf reilffordd Caerdydd Canolog ac mae canol y ddinas o fewn cyrraedd hawdd ar droed.
2. Archwiliwch Abertawe a Phenrhyn Gŵyr: Dechreuwch eich taith yn Abertawe, y ddinas fywiog sy'n gweithredu fel y porth perffaith i Benrhyn Gŵyr godidog. Wedi'i ddynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, mae Penrhyn Gŵyr yn gartref i draethau byd-enwog fel Bae Rhosili a Bae'r Tri Chlogwyn. Mae'n berffaith ar gyfer crwydro arfordirol a syrffio.
3. Ewch i ymweld ag Ynys Eiconig y Barri: Mwynhewch swyn glan môr, o'r traeth enwog i'r parc difyrion a gallwch ymweld â lleoliadau ffilmio go iawn Gavin a Stacey. Ewch ar drên uniongyrchol, rheolaidd o Gaerdydd am daith ddidrafferth.
4. Castell Caerffili: Ymwelwch â chastell mwyaf Prydain ar ôl Windsor, sy'n enwog am ei amddiffynfeydd dŵr cymhleth a'i dŵr gogwyddol eiconig. Mae'n ddiwrnod allan hyfryd a dim ond taith trên fer 20 munud o Gaerdydd Canolog.
5. Cerddwch y copaon: Mentrwch i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gallwch gyrraedd rhannau o'r parc, gan gynnwys Pen y Fan, gan ddefnyddio'r gwasanaeth bws T4 o Gaerdydd neu Bontypridd.
Dinasoedd yn Ne Cymru
Mae gan Dde Cymru ddinasoedd bywiog a threfi swynol sy'n berffaith i'w harchwilio ar y trên. Rydym wedi dewis rhai o'r goreuon y gallwch eu cyrraedd yn hawdd ar ein rhwydwaith:
Caerdydd: Fel ein prifddinas, mae'n ganolfan ddiwylliannol sy'n cynnig siopa gwych, Stadiwm y Principality a glannau hardd Bae Caerdydd, a phob un yn hawdd eu cyrraedd o orsaf Caerdydd Canolog.
Abertawe: Archwiliwch ail ddinas fwyaf Cymru, sy’n borth i Benrhyn Gŵyr hardd. Fe welwch lan dŵr bywiog a mannau gwych i fwyta ac yfed.
Casnewydd: Ewch i ymweld â'r ddinas sy'n enwog am ei Phont Gludo unigryw a Thŷ Tredegar syfrdanol, plasty o'r 17eg ganrif wedi'i leoli o fewn parcdir hardd.
Tyddewi: Dyma ddinas leiaf Prydain, sy'n adnabyddus am ei chadeirlan ysblennydd a'i golygfeydd arfordirol heddychlon, garw o Sir Benfro.
Hanes yn Ne Cymru
Yn llawn atyniadau anarferol i'w gwerthfawrogi, mae De Cymru yn gyrchfan berffaith i’r rheini sy’n hoff o hanes.
Y Chwyldro Diwydiannol: Darganfyddwch etifeddiaeth bwerus ein diwydiannau glo a haearn mewn safleoedd UNESCO fel Big Pit a Gwaith Haearn Blaenafon. Mae Big Pit a Blaenafon wedi'u cysylltu gan lwybrau bysiau lleol o orsaf Pont-y-pŵl a’r Dafarn Newydd.
Caerau Normanaidd: Archwiliwch gaerau Normanaidd aruthrol fel Castell trawiadol Caerffili. Mae Castell Caerffili yn daith trên fer, tua 20 munud o Gaerdydd Canolog.
Safleoedd hynafol: Camwch yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Genedlaethol Caerllion, neu gweler adfeilion dramatig, di-do Abaty Tyndyrn ger y ffin. Edrychwch ar ein gwefan am y llwybrau gorau.
Hanes byw: Gallwch archwilio 1,100 o flynyddoedd o hanes ym Mhrofiad y Bathdy Brenhinol, sy'n hawdd ei gyrraedd trwy gysylltiadau bws lleol o orsaf Pont-y-clun.
Atyniadau awyr agored yn Ne Cymru
Os oes yn well gennych chi weithgareddau awyr agored, dyma beth i'w wneud yn Ne Cymru.
Bannau Brycheiniog: Mae'r Parc Cenedlaethol hwn yn berffaith ar gyfer mynydda, o ddringo Pen y Fan i archwilio 'Gwlad y Rhaeadrau' (fel Sgwd Rhyd Yr Hesg). Rydym yn argymell dal y gwasanaeth bws T4 o Gaerdydd neu Bontypridd.
Arfordir Penrhyn Gŵyr: Mwynhewch dirweddau eiconig yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol hon, sy'n berffaith ar gyfer crwydro arfordirol a chwaraeon dŵr. Ewch ar y trên i orsaf reilffordd Abertawe a daliwch fws o'r orsaf i fannau poblogaidd fel y Mwmbwls a Rhosili.
Tŵr Zip World: Profwch ddiwrnod allan cyffrous ar linell sip â sedd gyflymaf y byd yn Nhŵr Zip World yng Nghymoedd De Cymru. Ewch ar drên i orsaf reilffordd Aberdâr. Mae Zip World yn daith fer mewn tacsi i ffwrdd, a allwch archebu ymlaen llaw.
Parc Coedwig Afan: Yn adnabyddus fel un o'r cyrchfannau beicio mynydd gorau yn y DU, mae Parc Coedwig Afan yn cynnig llwybrau sy’n addas ar gyfer pob gallu. Ewch ar drên i orsaf Parcffordd Port Talbot. O'r fan honno, gallwch gysylltu â gwasanaeth bws lleol neu lwybr beicio yn uniongyrchol i'r parc.
Pethau i'w gwneud yn Ne Cymru gyda phlant
Mae De Cymru yn cynnig y diwrnod allan perffaith i’r teulu, gyda digon o weithgareddau sy’n addas i blant.
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Techniquest: Amgueddfa wyddoniaeth ryngweithiol wych ym Mae Caerdydd, yn berffaith ar gyfer meddyliau chwilfrydig o bob oed. Ewch ar y trên i orsaf reilffordd Bae Caerdydd neu daliwch wasanaeth bws lleol.
Profiad y Bathdy Brenhinol: Archwiliwch ble mae ein darnau arian yn cael eu gwneud! Mae'n brofiad addysgiadol a hwyliog i'r teulu cyfan, yn enwedig os nad yw'r tywydd yn wych. Yn hawdd ei gyrraedd trwy gysylltiadau bws lleol o orsaf Pont-y-clun.
Profiad Cloddio Glo Cymru: Ewch i Barc Treftadaeth Rhondda ar gyfer taith danddaearol unigryw sy'n dod â hanes diwydiannol y cymoedd yn fyw. Y ffordd hawsaf o gyrraedd yno yw o orsaf Pontypridd.
Parc Go Ape Margam: Gadewch i'r teulu losgi egni ar gyrsiau rhaffau uchel a meysydd chwarae antur sydd wedi'u lleoli yng ngerddi prydferth Parc Margam. Ewch ar y trên i orsaf Parcffordd Port Talbot. Gallwch gyrraedd Parc Margam drwy daith fer mewn tacsi neu ar wasanaeth bws lleol o'r orsaf.
Pethau i'w gwneud yn Ne Cymru i gyplau
Mae De Cymru yn cynnig cefnlenni trawiadol a rhamantus ar gyfer taith fythgofiadwy i ddau.
Castell y Tylwyth Teg (Castell Coch): Ewch i ymweld â'r castell ffantasi Gothig hardd hwn sydd bellach wedi'i adfer. Dyma leoliad rhamantus, syfrdanol sy'n edrych fel y daw’n syth allan o lyfr stori. Gallwch gyrraedd y fan hon yn hawdd ar fws o Gaerdydd.
Glannau Bae Caerdydd: Mwynhewch noson soffistigedig yn archwilio campwaith pensaernïol Canolfan Mileniwm Cymru a bwyta yn un o'r nifer o fwytai a bariau. Ewch ar y trên i orsaf reilffordd Bae Caerdydd (cysylltiad byr o orsaf Caerdydd Heol y Frenhines) neu defnyddiwch wasanaeth bws lleol.
Rheilffordd Mynydd Aberhonddu: Rheilffordd Mynydd Aberhonddu: Ewch ar daith trên stêm â golygfeydd gwych gyda'ch gilydd drwy olygfeydd ysblennydd Bannau Brycheiniog, sy'n berffaith ar gyfer diwrnod tawel allan. Ewch ar y trên i orsaf Merthyr Tudful. O'r fan honno, gallwch ddal bws lleol neu dacsi wedi'i archebu ymlaen llaw i safle'r rheilffordd.
Arfordir Treftadaeth Sir Forgannwg: Archwiliwch glogwyni dramatig, cilfachau diarffordd, a Goleudy hanesyddol Nash Point ar y darn trawiadol 14 milltir hwn o arfordir. Ewch ar drên i orsaf Llanilltud Fawr. Mae llwybr yr arfordir yn hawdd ei gyrraedd o'r orsaf.
Yn barod i brofi De Cymru? Cynlluniwch eich taith nawr gan ddefnyddio ein gwefan neu lawrlwythwch ein ap defnyddiol i brynu eich tocynnau a dod o hyd i'n prisiau isaf heb unrhyw ffioedd archebu.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Ymweld â Chaer Dewch i ddarganfod Visit Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-