Mae tref fwyaf Ynys Môn, Caergybi mewn gwirionedd ar Ynys Gybi fechan, wedi'i gwahanu oddi wrth Ynys Môn gan gulfor Cymyran. Gwasanaethir Caergybi gan drenau rheolaidd dros Arglawdd Stanley, a adnabyddir yn lleol fel y Cob.
Bu pobl yn byw ar Ynys Gybi ers y cyfnod cynhanesyddol, ac mae olion siambrau claddu hynafol a chrynhoad mwyaf Prydain o feini hirion i’w gweld ar draws yr ynys. Y dyddiau hyn, mae Caergybi’n borthladd fferi prysur sy'n gwasanaethu dinasoedd Gwyddelig Dulyn a Belfast, ac yn denu ymwelwyr o bob cwr. Gyda’i agosrwydd at atyniadau niferus Bangor, mae llawer o bethau i’w gweld a’u gwneud o amgylch Caergybi.
1. Archwilio Gwarchodfa RSPB Ynys Lawd
Uwchben y clogwyni garw, gan edrych tuag at ynys fechan Ynys Lawd, mae Gwarchodfa RSPB Ynys Lawd yn cynnwys Llwybr Arfordirol Ynys Môn, sy’n rhedeg ar draws ei chlogwyni gwyntog, ac mae tua 180,000 o bobl yn ymweld â hi bob blwyddyn. Gan gynnig amrywiaeth o ran cynefinoedd, mae’r môr, yr arfordir, y clogwyni a’r gweundir yn darparu cartrefi i rywogaethau niferus o fflora a ffawna.
Mae Gwarchodfa Ynys Lawd yn chwarae rhan hanfodol yng nghadwraeth llawer o'r rhywogaethau hyn, a dim ond ar Ynys Gybi y ceir nifer ohonynt. Mae’n hollbwysig ar gyfer cadwraeth brain coesgoch, gyda tua deg pâr magu yn bwydo ac yn nythu ar rostir y warchodfa. Ynghyd â gwiberod a madfallod cyffredin, mae'r rhostir hefyd yn gynefin pwysig i'r glöyn byw serennog prin, yr ehedydd du a'r gathaderyn llwyd.
Er mwyn cynnal iechyd y rhostir, mae tanau rheoledig yn annog twf newydd ac yn caniatáu i olau'r haul gyrraedd y ddaear. Mae'r mannau duon llosg yn edrych yn frawychus i ddechrau ond buan iawn y maent wedi'u gorchuddio â charped o wyrdd.
Mae’r clogwyni’n gartref i adar môr di-rif, gyda bron i 10,000 yn nythu ar y silffoedd peryglus, gan gynnwys gweilch y penwaig a gwylogod, adar drycin y graig a gwylanod coesddu, tra bod yn well gan balod y clogwyni glaswelltog, gan dyllu drwy’r pridd rhydd i wneud eu nythod.
Wrth edrych allan i’r môr, efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld dolffiniaid a llamhidyddion rhwng y huganod sy’n plymio’n serth drwy’r awyr.
Gyda rhwydwaith o lwybrau’n croesi’r warchodfa natur, mynediad i Oleudy Ynys Lawd, a digwyddiadau niferus drwy gydol y flwyddyn, mae’r warchodfa natur yn hafan i’w thrigolion a’i hymwelwyr fel ei gilydd.
- Gweld brain coesgoch prin, hebogau tramor a ffefryn pawb, y pâl doniol
- Mynediad am ddim
- Gwefan Gwarchodfa RSPB Ynys Lawd
2. Camwch i’r Gorffennol yng Ngrŵp Cytiau Mynydd Tŵr
Yn cael eu hadnabod hefyd fel ‘Grŵp Cytiau Tŷ Mawr’, neu’r ‘Cytiau’r Gwyddelod’, mae Cytiau Mynydd Tŵr o dan ofal CADW. Yn dyddio'n ôl i'r Oes Haearn - tua 500 CC, credir bod mwy na 50 o gytiau cerrig yn wreiddiol, ond heddiw, mae tua 20 wedi goroesi ar ffurf sylfeini crwn.
Wedi'u hadeiladu ar derasau gwastad ym mhen de-orllewinol Mynydd Tŵr, byddai'r waliau wedi bod yn fwy na throedfedd o drwch. Gwyddom y byddai’r toeau wedi’u toi â chyrs neu dyweirch o ffynonellau lleol, wedi’u gosod ar draws trawstiau oedd yn ffurfio siâp conigol, ac mae rhai o’r sylfeini’n dangos lle byddai waliau mewnol wedi gwneud ystafelloedd ar wahân, tra bod gan rai hyd yn oed feinciau a sinciau cerrig wedi’u cerfio yn dal yn y fan a'r lle.
Mae offer fflint Mesolithig, siarcol neolithig mewn aelwyd, a phentwr o gregyn llygaid maharen wedi’u dyddio tua 200 CC, wedi'u cloddio o'r safle. Mae eitemau ar gyfer paratoi bwyd hefyd wedi'u darganfod gan gynnwys melinau llaw a ddefnyddid i fathru a melino grawn, offer torri a hyd yn oed bowlenni bas.
Mae'r Cytiau Mynydd yn gyswllt â gorffennol sydd, yma ar Ynys Gybi, yn teimlo'n agos iawn.
- Archwiliwch y safle hynod ddiddorol hwn
- Mynediad am ddim
- Gwefan Grŵp Cytiau Mynydd Tŵr
3. Cael hwyl wrth ddysgu yn Amgueddfa Arforol Caergybi
Mae gorsaf bad achub hynaf Cymru, sy’n dyddio’n ôl i 1858, yn gartref i Amgueddfa Arforol Caergybi. Yn adrodd hanes Ynys Gybi a’i pherthynas â’r cefnfor, mae’r casgliadau’n hynod ddiddorol a thrawiadol.
Mae arddangosfa Caergybi yn y Rhyfel wedi’i lleoli mewn lloches cyrch awyr o’r Ail Ryfel Byd wedi’i hail-greu, sy’n cynnwys pethau cofiadwy o’r rhyfeloedd a gasglwyd oddi wrth bobl a brofodd yr arswyd drostynt eu hunain, neu aelodau o’u teulu sydd wedi goroesi sy’n cofio’r straeon a drosglwyddwyd gan berthnasau.
Mae casgliadau eraill yn canolbwyntio ar longddrylliadau, stormydd peryglus a lesteiriodd ymgyrchoedd achub canol nos, herfeiddwyr, gwrthryfelwyr a môr-ladron - un a allai hyd yn oed fod wedi bod yr enwog Jack Sparrow.
Mae arddangosfeydd rhyngweithiol yn dod â hanes morwrol Ynys Môn yn fyw o flaen eich llygaid, gan roi cyfle i chi brofi bywyd ar y moroedd mawr drosoch eich hun.
- Profwch hanes morwrol cyffrous y rhanbarth
- Mynediad o £4.50
- Amgueddfa Arforol Caergybi
4. Mwynhewch ym Mae Trearddur
Bydd y rhai bychain wrth eu bodd yn crwydro'r traeth tywodlyd enfawr ym Mae Treaddur. Mae hyd yn oed rannau o’r traeth sy’n gyfeillgar i gŵn drwy gydol y flwyddyn, felly does dim rhaid i neb yn y teulu golli allan.
Mae Bae Trearddur yn draeth teuluol gwych gyda chaffis a thoiledau.
- Traethau hardd
- Cyfeillgar i gŵn
- Gwefan Bae Trearddur
5. Parc Gwledig y Morglawdd
I’w ganfod ychydig y tu allan i Gaergybi, mae Parc Gwledig y Morglawdd yn fan cychwyn gwych ar gyfer teithiau cerdded arfordirol. Gallwch gerdded ar hyd Morglawdd Caergybi, yr hiraf yn y DU sydd ychydig dan 2 filltir. Mae gan y parc ganolfan ymwelwyr, cyfleusterau parcio da, ac mae'n cael ei wasanaethu'n dda gan lwybrau troed. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn rhedeg drwy’r warchodfa, gan ddilyn yr arfordir o amgylch Porth Namarch ac ymlaen i Ynys Arw a’r orsaf rybudd niwl.
- Arfordir hyfryd
- Gwych ar gyfer cerdded
- Gwefan Parc Gwledig y Morglawdd
P’un a ydych yn chwilio am wyliau cyfeillgar i blant neu wyliau penwythnos hir, mae Caergybi ac Ynys Môn yn lleoedd perffaith i ddianc oddiwrth y cyfan.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti
-
Pethau hwyliog i'w gwneud yng Nghasnewydd y penwythnos yma Dewch i ddarganfod Fun things to do in Newport this weekend
-
Pethau i'w gwneud yng Nghanol Dinas Caerdydd Dewch i ddarganfod Things to do in Cardiff City Centre
-
Y gwyliau dinesig gorau yn y DU i gyplau: teithiau cerdded rhamantus yn Ynysoedd Prydain Dewch i ddarganfod romantic getaways in the British Isles
-