Data monitro cyflymder cerbydau: Gorffennaf 2023 i Ionawr 2025
Crynodeb
Data monitro cyflymder cerbydau Ionawr 2025
Data monitro cyflymder cerbydau fesul safle
Mae’r ystadegau hyn yn rhoi cipolwg ar gyflymder cerbydau a gafodd eu cofnodi mewn safleoedd monitro ar y prif ffyrdd trwodd ledled Cymru. Mae’r gwaith monitro wedi cael ei gynnal lle mae cyfyngiad cyflymder o 20mya nawr yn berthnasol. Mae’r data’n crynhoi cyflymder cerbydau yn erbyn y tri Dangosydd Perfformiad Allweddol (DPA) a amlinellir yn y fframwaith monitro 20mya cenedlaethol. Casglwyd y data o 43 safle monitro ar brif ffyrdd ar draws 10 ardal, ac mae’n cynnwys tua 7 miliwn o gerbydau ym mhob cyfnod monitro. Ni ddylid ystyried bod y data’n cynrychioli cyflymderau cyfartalog ar bob ffordd sydd â chyfyngiad cyflymder o 20mya.
Tabl 1: Asesiad DPA
Dangosyddion Perfformiad Allweddol | Haf 2023 | Gaeaf 2023/24 | Haf 2024 | Gaeaf 2024/25 |
---|---|---|---|---|
Canran sy’n teithio ar neu o dan 24mya | 20.8% | 58.7% | 52.7% | 54.0% |
Cyflymder yr 85ed ganradd wedi’i bwysoli (mya) | 32.9 | 29.1 | 29.8 | 29.5 |
Cyflymder cymedrig wedi’i bwysoli (mya) | 28.7 | 24.4 | 25.1 | 24.9 |
Yn ystod gaeaf 2024/25, roedd 54.0% o’r cerbydau a gafodd eu cofnodi yn teithio ar 24mya neu’n arafach na hynny. Mae hyn yn gynnydd o 1.3 pwynt canran (pc) o’i gymharu â chyfnod monitro haf 2024. Cyn newid y terfyn cyflymder, roedd 20.8% o gerbydau’n teithio ar neu o dan 24mya.
Cyflymder yr 85ed ganradd, wedi’i bwysoli yn ôl cyfanswm y cerbydau, oedd 29.5mya yn ystod gaeaf 2024/25. Mae hyn 0.3mya yn arafach na’r cyflymderau a gofnodwyd yn ystod haf 2024 (29.8mya), ac mae 3.4mya yn arafach na chyn y newid i’r terfyn cyflymder 20mya.
Y cyflymder cymedrig wedi’i bwysoli a gofnodwyd yn ystod gaeaf 2024/25 oedd 24.9mya. Mae hyn 3.8mya yn arafach na chyn newid i’r terfyn cyflymder o 20mya (28.7mya), ac mae’n 0.2mya yn arafach na’r cyflymder cymedrig wedi’i bwysoli a gofnodwyd yn ystod haf 2024 (25.1mya).
Mae Tabl 2 yn dangos sut mae cyflymder wedi newid rhwng y cyfnodau ac ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya.
Mae data gaeaf 2024/25 yn dangos bod cyflymderau, fel y’u diffinnir gan ddefnyddio’r tri mesur DPA, wedi gostwng rywfaint o’u cymharu ag yn ystod haf 2024. Fodd bynnag, mae’r cyflymderau hyn yn gyflymach na’r rhai a gofnodwyd yn y flwyddyn flaenorol yn ystod gaeaf 2023/24. Mae’r newidiadau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol.
Mae pob DPA yn dangos bod cyflymder yn ystod gaeaf 2024/25 yn arafach na’r cyflymderau a gofnodwyd cyn newid y terfyn cyflymder. Mae’r gostyngiadau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol.
Tabl 2: Cymharu DPA â chyflymderau cyn rhoi’r terfyn ar waith
Canran sy’n teithio ar neu o dan 24mya | Newid rhwng cyfnodau | Cyflymder yr 85ed ganradd wedi’i bwysoli (mya) | Newid rhwng cyfnodau | Cyflymder cymedrig wedi’i bwysoli (mya) | Newid rhwng cyfnodau | |
Gaeaf 2023/24 | +37.9pp | - | -3.8 | - | -4.3 | |
Haf 2024 | +31.9pp | -6.0pp | -3.1 | +0.7 | -3.6 | +0.7 |
Gaeaf 2024/25 | +33.2pp | +1.3pp | -3.4 | -0.3 | -3.8 | -0.2 |
Dangosir dosbarthiad o gyflymder cerbydau ar gyfer pob cyfnod monitro yn Ffigur 1. Yn ystod gaeaf 2024/25, lle’r oedd 54.0% o gerbydau’n teithio ar 24mya neu’n arafach, roedd 15.4% o gerbydau yn teithio ar 19mya neu’n arafach. Mae hyn wedi cynyddu o 14.9% yn ystod haf 2024.
Fodd bynnag, cyn cyflwyno’r newid i’r terfyn cyflymder, cofnodwyd bod 37.0% o gerbydau’n teithio ar 30mya neu’n gyflymach. Mewn cymhariaeth, dim ond 15.2% o gerbydau a gofnodwyd yn teithio ar 30mya neu’n gyflymach yn ystod gaeaf 2024/25.

Ffigur 1: Dosbarthiad cyflymder yn ôl cyfnod monitro
Gwybodaeth gefndir
Mae’r datganiad hwn yn crynhoi data cyflymder cerbydau o safleoedd monitro penodol ar hyd a lled Cymru. Roedd gan bob ffordd a gafodd ei monitro derfyn cyflymder o 30mya cyn 17 Medi 2023 a therfyn cyflymder o 20mya o 17 Medi 2023 ymlaen. Adeg y monitro, roedd pob ffordd yn rhydd i raddau helaeth o rwystrau neu gyfyngiadau ffisegol neu rwystrau sy’n lleihau cyflymder traffig.
Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar fonitro cyflymder am gyfanswm o un wythnos ar bymtheg yn ystod:
- Haf 2023 - pedair wythnos o ddata cyn cyflwyno’r terfyn cyflymder, sy’n cwmpasu pythefnos ym mis Gorffennaf a phythefnos ym mis Medi.
- Gaeaf 2023/24 - pedair wythnos o ddata ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder, sy’n cwmpasu pythefnos ym mis Tachwedd a phythefnos ym mis Ionawr.
- Haf 2024 - pedair wythnos o ddata ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder, sy’n cwmpasu pythefnos ym mis Gorffennaf a phythefnos ym mis Medi.
- Gaeaf 2024/25 - pedair wythnos o ddata ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder, sy’n cwmpasu pythefnos ym mis Tachwedd a phythefnos ym mis Ionawr.
Mae data haf 2023 a haf 2024 yn cymharu cyfnodau tebyg am debyg cyn ac ar ôl cyflwyno’r polisi terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig.
Mae data gaeaf 2023/24 a gaeaf 2024/25 yn cymharu cyfnodau tebyg am debyg ar ôl cyflwyno’r polisi terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig.
Mae Awdurdodau Lleol yn adolygu adborth gan bobl, busnesau a chymunedau fel rhan o’r Rhaglen Wrando Genedlaethol ac efallai y byddant yn penderfynu newid y terfyn cyflymder ar ffyrdd unigol yn ôl i 30mya.
Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn effeithio ar sawl ffordd a ddefnyddir i fonitro cyflymder. O’r herwydd, efallai y bydd ymarferion monitro cyflymder 20mya yn y dyfodol yn cynnwys nifer o ddiwygiadau i eithrio ffyrdd sydd wedi dychwelyd i 30mya. Byddwn yn egluro effaith y newidiadau hyn yn glir pan fyddant yn digwydd.