Canolbarth Cymru
Mae llawer o’n gorsafoedd ar draws Canolbarth Cymru’n gweithredu fel porth i lwybrau cerdded allweddol. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cysylltu’n agos â rheilffordd y Cambrian, yn ogystal â safleoedd mynediad allweddol Clawdd Offa, gan ei gwneud yn hawdd i deithio ar drên i un cyfeiriad a dychwelyd y ffordd arall drwy gerdded. Rydym wedi nodi rhai llwybrau allweddol isod:
Gorsafoedd porth Llwybr Arfordir Cymru
Aberystwyth
Boed a ydych yn cerdded i'r gogledd neu’r de, mae gennych ddau ddewis wrth adael gorsaf drenau Aberystwyth.
Dewis 1. Trowch i'r chwith am 0.2 milltir / 0.3 cilometr ar hyd Ffordd Alexandra yna Dan Dre (A487) i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru dros Bont Trefechan. Trowch i’r chwith i groesi'r bont ac ewch am y de tuag at Lanrhystud ac Aberaeron. Neu ewch yn syth yn eich blaen yma i weld y golygfeydd arfordirol i’r de a mynd heibio gweddillion Castell Aberystwyth, adeilad eiconig yr Hen Goleg, y pier a’r promenâd.
Dewis 2. Neu croeswch y brif ffordd wrth y goleuadau a mynd ar hyd Ffordd y Môr. Ewch yn syth yn eich blaen drwy'r dref i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ar y promenâd. Yma fe allwch droi i'r dde i fynd i fyny Craig Glais a mynd i'r gogledd tuag at y Borth, neu fe allwch droi i'r chwith i fynd am gyfeiriad y de, heibio'r pier tuag at Aberaeron.
Y Borth
Dim ond tua dau gan llath yw Llwybr Arfordir Cymru o orsaf y Borth. Trowch i’r chwith wrth fynd allan o’r orsaf, i lawr Princess Street (B4353) i gyrraedd y llwybr wrth gyffordd gyda thrac ar y chwith. Trowch i'r chwith yma i fynd am y gogledd drwy Gors Fochno a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi tuag at Fachynlleth, neu arhoswch ar y brif ffordd drwy'r Borth i fynd am y de tuag at Aberystwyth.
Machynlleth
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio yn syth o flaen yr orsaf hon. Yn syml, ewch allan o'r orsaf i gyrraedd cefnffordd yr A487 a Llwybr Arfordir Cymru. Trowch i'r dde am Aberdyfi a throwch i’r chwith tuag at y Borth ac Aberystwyth.
Aberdyfi
Mae dwy daith gerdded gwbl wahanol yn aros amdanoch os ydych yn mynd oddi ar drên yn yr orsaf yma. Ewch i'r gogledd am Dywyn i gael taith gerdded hollol wastad, pum milltir o hyd, y tu ôl i dwyni Tywyn, neu ewch i'r dwyrain am lwybr sy’n mynd am yr ucheldir, i archwilio’r cefn gwlad uwchben Dyffryn Dyfi.
Y Bermo
Yma fe gewch chi daith gerdded hamddenol ar draws un o nodweddion archeolegol mwyaf eiconig Cymru, gan groesi aber Mawddach dros bont Abermaw, sydd wedi ymddangos mewn sawl llun. Dim ond ar droed, beic neu drên y gallwch chi ei chroesi.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn 0.1 milltir / 0.15 cilometr o'r orsaf - ewch i lawr Ffordd y Traeth pan ewch oddi ar y trên.
Gorsafoedd porth Clawdd Offa
Y Trallwng
Ewch o'r orsaf a gwneud eich ffordd ar hyd y gamlas am tua 30 munud (2.5km) nes i chi gyrraedd llwybr Clawdd Offa ym Mhont Buttington. Oddi yma, mae darn 50km o'r llwybr troed enwog rhwng y Trallwng a Threfyclo. Ond byddwch yn ofalus, mae’r llwybr yma ar lethr i gyd, bron.
- Llwybr Clawdd Offa TAITH BYR
Cnwclas i Drefyclo
Taith gerdded gymedrol o 5 milltir o Gnwclas, gydag esgyniad graddol at Fryn y Beili, i gyrraedd Llwybr Glyndŵr, sy’n pasio heibio gwlad y bryniau at hen ardal Trefyclo, i’r Narrows a thŵr y cloc. Gallwch weld y daith gerdded lawn yma.
Mae Trefyclo hefyd yn gartref i ganolfan Clawdd Offa, lle gallwch gael hyd i fwy o wybodaeth am deithiau cerdded lleol.
Llwybr Lein Calon Cymru
Mae Llwybr Lein Calon Cymru yn llwybr cerdded pellter hir sy'n gwau ei ffordd rhwng gorsafoedd ar hyd Lein Calon Cymru. Agorodd yng ngwanwyn 2019 ar draws Sir Amwythig, Powys, Sir Gaerfyrddin, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ogystal â Dinas a Sir Abertawe.