
Gallwch gymharu prisiau, archebu tocynnau a rheoli teithiau trên ar gyfer eich busnes, ysgol a choleg mewn un lle.
Ewch ati i greu cyfrif gyda ni ar gyfer eich busnes, ac fe wnawn ni ofalu am eich holl anghenion teithio ar gyfer y busnes.
Y manteision
- Dim ffioedd archebu na ffioedd cerdyn
- Dim cost sefydlu
- Casglu eich tocynnau o unrhyw beiriant tocynnau mewn gorsaf drenau yn y DU
- Tocynnau drwy radbost (codir tâl am gludiant arbennig neu bost sydd wedi'i gofnodi)
Tocynnau tymor corfforaethol
Helpu eich gweithwyr i arbed arian ar eu tocyn tymor.
Y manteision:
- 12 wythnos o deithio am ddim
- Teithiau unrhyw bryd
- 5% o ddisgownt ar lwybrau TrC
Tymor Addysg – Arbedwch hyd at 75%
Ffordd wyrddach o deithio yn hytrach na defnyddio’r car
- Arbedion o 75% ar gyfer pobl ifanc 11-17 oed (25% i rai 18 oed) ar docyn tymor blynyddol yn erbyn cost tocyn tymor i oedolion*
- Arbedion o 55% ar gyfer pobl ifanc 11-17 oed (5% i rai 18 oed) ar docyn tymor yn erbyn cost tocyn tymor i oedolion*
- Teithio anghyfyngedig i fyfyrwyr rhwng eu dwy orsaf ddewisol, unrhyw ddiwrnod o'r wythnos - gan gynnwys gweithgareddau ar ôl ysgol a phenwythnosau
*Pan brynwyd gan y sefydliad Addysg trwy ein tîm Teithio Busnes

Tocynnau tymor i ysgolion a cholegau
Rydym yn cynnig gostyngiadau i fyfyrwyr ysgolion a cholegau.
Y manteision
- Disgownt o 5% i fyfyrwyr 18 oed a throsodd
- 55% i fyfyrwyr dan 18 oed
- Teithio unrhyw bryd
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 08448 560 688 neu anfonwch e-bost at business.bookings@tfwrail.wales
Oriau agor: Llun-Gwe 08:30 – 16:00