Eich cydymaith teithio delfrydol

Mae ein ap yn caniatáu i chi brynu a chael mynediad i’ch tocynnau yn gyflym ac yn hawdd, p'un a ydych chi'n mynd ar y trên i'r gwaith, i’r brifysgol neu i wneud ychydig o siopa. Ond a oeddech chi'n gwybod y gallwch chi ei ddefnyddio hefyd i brynu tocynnau ar gyfer teithiau trên unrhyw le ym Mhrydain?

 

Lawrlwythwch ap TrC heddiw

App StoreGoogle Play

 

Arbed arian

Mae ein ap yn rhoi mynediad unigryw i chi i rai o'n tocynnau gwerth gorau.

  • Ydych chi'n dal y trên yn llai aml? Prynwch ein tocynnau Multiflex sy'n arbed arian i chi.
  • Arbedwch arian ar eich teithiau pellter hir gyda'n tocynnau Advance. Cewch hyd at 50% oddi ar brisiau tocynnau.
  • Awydd mwynhau teithio di-ben-draw am un neu bedwar diwrnod ar rannau penodol o'n rhwydwaith? Rhowch gynnig ar ein Cardiau Crwydro Cymru.

Gallwch hefyd ledaenu cost eich tocynnau gyda system Pay in 3 PayPal pan fyddwch yn gwario £30 neu fwy a gallwch reoli’ch cyfrif Talu Wrth Fynd ar gyfer teithio digyswllt yn hawdd (ar gael ar rannau penodol o'n rhwydwaith).

 

Newid eich tocyn

Ydy’ch cynlluniau teithio wedi newid ar ôl i chi brynu tocyn Advance? Gallwch ddefnyddio ein ap i newid dyddiad ac amser eich tocyn yn hawdd, hyd at 18.00 y diwrnod cyn i chi deithio. Yn wahanol i apiau eraill, ni fyddwn yn codi tâl arnoch am wneud hyn.

Ewch i trc.cymru/ad-daliadau a dewiswch "Prynais fy nhocyn ar yr ap neu’r wefan" i ddarganfod mwy.

 

Arbed amser

  • Cewch ddiweddariadau teithio byw a hysbysiadau ynglŷn â gwasanaethau ar flaenau eich bysedd. 
  • Mae ein ap yn caniatáu i chi ddod o hyd i drenau TrC gyda'r mwyaf o le, fel y gallwch gynllunio eich taith a sicrhau cyfforddusrwydd ychwanegol. 
  • Gallwch ddod o hyd i ganllawiau hawdd ynghylch ein cynllun Ad-dalu Oedi os caiff eich trên ei oedi neu ei ganslo. 
  • Mae modd cadw lle ar gyfer beiciau ar rai o'n gwasanaethau.

Os gwnaethoch chi brynu tocyn Advance i deithio ar wasanaeth TrC (ar gyfer eich taith gyfan neu ran o'ch taith) gan ddefnyddio ein ap neu’r wefan, mae ein cynllun Ad-dalu Oedi awtomatig yn berthnasol i chi os caiff eich trên ei oedi neu ei ganslo.

 

Arbed ymdrech

  • Storiwch eich tocyn yn waled talu eich ffôn clyfar i gael mynediad hawdd ato.
  • Arbedwch arian wrth brynu tocynnau heb unrhyw ffioedd archebu.
  • Cewch fynediad unigryw i gynigion.
  • Cewch fynediad i docynnau Multiflex i arbed arian yn ogystal â thocynnau Advance.
  • Rhannwch y gost gyda system Pay in 3 PayPal pan fyddwch yn gwario £30 neu fwy.
  • Newidiwch eich tocynnau Advance hyd at 18.00 y diwrnod cyn teithio heb gostau ychwanegol
  • Rheolwch eich cyfrif Talu Wrth Fynd drwy ap TrC er mwyn sicrhau teithiau didrafferth a hwylus. 
  • Derbyniwch ddiweddariadau teithio a gwybodaeth ynglŷn â phlatfformau ar flaenau eich bysedd i wneud eich taith mor rhwydd â phosibl.
  • Dewch o hyd i drenau gyda mwy o le a chewch fynediad hawdd i Ad-daliad Oedi os caiff eich trên ei oedi neu ei ganslo.
  • Cadwch le ar gyfer eich beic ar rai o'n gwasanaethau.
  • Dewiswch eich iaith - mae ein ap yn darparu opsiynau Cymraeg a Saesneg.

 

Ei gwneud hi’n rhwydd teithio ar y trên

Mae teithio wrth fynd digyswllt dim ond ar gael ar wasanaethau TrC a CrossCountry rhwng Caerdydd Canolog, Casnewydd, Pont-y-clun a gorsafoedd hyd at Lyn Ebwy, Maesteg a'r Fenni.

""

Fe allwch chi gael hyd yn oed mwy o fuddion drwy gofrestru ar ap TrC

Mae’n hawdd cadw golwg ar eich taith ar y trên pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer cyfrif ar ap TrC.

  • Gweld eich hanes teithio a thalu llawn mewn un lle.
  • Llwytho eich derbynebau teithio i lawr mewn ychydig o dapiau.
  • Cael gwybod os ydych chi’n anghofio tapio allan, er mwyn osgoi costau ychwanegol.
  • Galluogi’r cof teithiau rheolaidd ar sail eich patrymau teithio er mwyn i’r ap allu cwblhau eich teithiau’n awtomatig.

Dysgu mwy, Talu wrth fynd.

 

Lawrlwythwch ap TrC heddiw

App StoreGoogle Play

 

Personoli eich teithiau gyda ap TrC

Beth am greu cyfrif TrC i hwyluso’ch teithiau trên hyd yn oed yn fwy.

Gallwch nodi’r gorsafoedd rydych yn eu defnyddio mwyaf, cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â theithio, lawrlwytho’ch derbynneb a mwy. Cofrestrwch i greu cyfrif yma neu ar ap TrC

  • Heb ddefnyddio ap TrC o’r blaen?
    • Cam 1 - Lawrlwytho 
      Ewch i’r ‘App Store’ (linc isod) a lawrlwytho ap newydd TrC.

      App StoreGoogle Play

    • Cam 2 - Creu cyfrif
      Mewngofnodi a chreu cyfrif newydd/cofrestru drwy ap TrC, mae’n rhwydd a chyflym.

    • Cam 3 - Dechrau defnyddio yn syth 
      Rydych chi’n barod i fynd, dechreuwch chwilio am amseroedd a phrisiau trenau, prynwch docyn a’i hawlio yn syth. 

    • Rydym yn diweddaru ein Ap yn gyson, gwiriwch fod gyda chi’r fersiwn ddiweddaraf ar eich dyfais.

    • Rhagor o wybodaeth am ddiweddaru eich ap TrC.

  • Pa docynnau trên alla i brynu?
    • Gallwch brynu’r rhan fwyaf o’n tocynnau ar yr ap:

      • Tocynnau Unrhyw bryd

      • Tocynnau Advance

      • Tocynnau sengl a dychwelyd

      • Tocynnau Multiflex

  • Defnyddio eich ffôn symudol fel tocyn
    • Dewiswch yr opsiwn darparu tocyn digidol pan fyddwch yn prynu eich tocyn (ar yr ap neu ar-lein) a byddwn yn anfon eich tocyn yn syth i’r ap.

  • Dyma’r hyn sy’n bosibl gyda’r ap:
      • Amseroedd trenau

      • Gwybodaeth byw am drenau sy’n cyrraedd a gadael

      • Diweddariadau ar drenau sydd wedi’u gohirio neu eu canslo

*Y ganran gyfartalog a arbedwyd gan gwsmeriaid rhwng 01/01/2022 a 31/12/2022 wrth brynu tocynnau Advance TrC heb ddisgownt o’i gymharu â thocyn sengl rhataf TrC am bris unrhyw bryd ar gyfer yr un siwrnai, sydd ar gael ar y diwrnod teithio, oedd 51%. Mae prisiau tocynnau Advance yn amodol ar argaeledd. Mae Amodau Teithio National Rail yn berthnasol.