Mwynhewch bopeth sydd gan ein gwasanaeth bwyd a diod ar y trên i’w gynnig. P’un ai a ydych chi’n gwledda ar bryd arbennig ein cogydd yn y Dosbarth Cyntaf, yn cipio pryd o fwyd i fynd o’r bar bwyd neu’n cael diod o’r troli.

 

  • Oes bwyd a diod ar gael ar fy nhrên?
    • Dim ond ar ein Gwasanaeth Premier rhwng Caerdydd a Chaergybi a Caerdydd a Manceinion y mae ein gwasanaeth bwyd Dosbarth Cyntaf a’n gwasanaeth bar bwyd ar gael ar hyn o bryd.

      Byddwn fel arfer yn darparu gwasanaeth troli gydag amrywiaeth o fyrbrydau blasus a diodydd poeth ac oer ar y llwybrau canlynol:

      • Caerfyrddin - Manceinion Piccadilly
      • Caerdydd Canolog - Caergybi
      • Aberystwyth - Birmingham International
      • Cyffordd Llandudno - Maes Awyr Manceinion
      • Caergybi - Birmingham International

      Mae ein holl wasanaethau bwyd a diod ar y trên yn amodol ar argaeledd. Y ffordd hawsaf o gael gwybod a fydd bwyd ar gael ar eich trên yw prynu tocyn drwy’r ap neu ar ein gwefan. Pan fyddwch yn dewis eich llwybr a’ch amseroedd gadael, bydd eicon yn ymddangos i nodi a fydd bwyd a diod ar gael.

      Gallwch hefyd ein ffonio ni ar 03333 211 202 rhwng 8am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 10am ac 8pm ar ddydd Sul.

  • Gwybodaeth am alergeddau
    • Gofynion dietegol 

      Mae ein cogyddion wrth eu boddau’n coginio bwydydd i chi fwynhau.  Ond, caiff y prydau hyn eu paratoi mewn mannau lle mae cynhwysion alergenig yn bresennol.  Oherwydd hynny, allwn ni ddim a gwarantu bod ein prydau yn 100% rhydd o alergenau.

      Siaradwch ag aelod o'n tîm bwyd a diod os oes gennych unrhyw gwestiynau ac fe wnawn ein gorau i helpu. 

      Os oes gennych unrhyw ofynion dietegol, fel alergedd neu anoddefiad bwyd, rhowch wybod i ni wrth archebu. Byddwn yn hapus i helpu. 

      Caiff ein bwyd ei baratoi yn ffres ar ein trenau pob dydd.  Bydd ein cogyddion yn ceisio paratoi prydau bwyd sy'n diwallu eich anghenion dietegol lle bynnag bo modd. 

      Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i osgoi croeshalogi. Ni allwn warantu bod unrhyw un o'n prydau yn hollol rhydd o alergenau. Mae hyn oherwydd ein bod yn ymdrin â bwydydd sy'n cynnwys blawd, wyau, llaeth, cnau ac alergenau eraill yn ein ceginau.