Ar-lein
Dim ond ychydig o fanylion y bydd eu hangen arnom i archebu eich cymorth.
Archebu cymorth arbennig
Rydyn ni am ei gwneud hi mor hawdd â phosib i chi deithio gyda ni ac rydyn ni’n cynnig cymorth o sawl math os oes gennych chi anghenion o ran mynediad.
Fe wnawn ein gorau bob amser i’ch helpu chi, pa un a ydych chi’n teithio ar fyr rybudd neu wedi archebu cymorth ymlaen llaw.
Mae ein gwasanaeth Cymorth i Deithwyr ar gael i'r rheini sydd angen cymorth ychwnaegol i deithio. Rydym yn argymell bod teithwyr yn archebu cymorth cyn teithio - bydd yn help mawr i ni wrth gynllunio a sichrau nad ydych yn gorfod aros am y cymorth.
Rydyn ni eisiau i bawb deithio'n hyderus. Dyna pam, os ydych chi’n bwriadu teithio gyda gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, gallwch ofyn am cymorth archeb ymlaen llaw - nawr hyd at 2 awr cyn y disgwylir i’ch taith ddechrau, unrhyw adeg o’r dydd.
Byddwch yn ymwybodol y gallwch chi bob tro “troi fyny a mynd” heb archebu cymorth ymlaen llaw, neu os ydych wedi archebu lle ar-lein nad yw wedi'i gadarnhau eto. Byddwn yn darparu cymorth i fynd â chi i ben eich taith.
Mae sawl ffordd o archebu:
- Ar-lein wrth brynu eich tocynnau: dewiswch yr help sydd ei angen arnoch o'n hamrywiaeth o opsiynau
- Ar-lein - drwy ddefnyddio ein ffurflen archebu cymorth
- Dros y ffôn: ffoniwch ein tîm Cymorth i Deithwyr ar 03330 050 501 (Ar agor 24 awr y dydd bob dydd, heblaw 25 a 26 Rhagfyr)
- Drwy wasanaeth Testun y Genhedlaeth Nesaf: ffoniwch ein tîm Cymorth i Deithwyr drwy'r gwasanaeth cyfnewid testun ar 18001 03330 050 501 (Ar agor 24 awr y dydd, bob dydd. heblaw 25 a 26 Rhagfyr)
- Defnyddio system cwsmeriaid Cymorth i Deithwyr ar y we ac ar ffonau symudol. Sylwer, nid yw'r system hon ar gael yn Gymraeg.
Os nad ydych wedi archebu cymorth i deithio, byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i’ch helpu, ond gallai gymryd ychydig mwy o amser i drefnu’r cymorth sydd ei angen arnoch.
Ar gyfer National Rail
- Dros y ffôn: 03457 484 950 neu 08000 223 720 (Ar agor 24 awr y dydd, bob dydd, heblaw 25 Rhagfyr)
- Ar-lein - Gwefan: https://www.nationalrail.co.uk/
- Testun Uniongyrchol: 03456 050 600: (ar gyfer pobl sy’n drwm eu clyw neu’n fyddar)
Nid yw galwadau’n costio mwy na ffonio rhifau daearyddol (01 neu 02), ac mae’n bosib eu bod wedi’u cynnwys mewn munudau cynhwysol a chynlluniau disgownt yn yr un modd.
-
Ein hymrwymiad Cymorth i Deithwyr (Passenger Assist)
-
Mae Cymorth i Deithwyr yn system genedlaethol sy’n cael ei defnyddio gan bob cwmni trên, sy’n helpu gweithredwyr i drefnu Cymorth i Deithwyr ar gyfer cwsmeriaid anabl neu gwsmeriaid ag anawsterau symud.
-
Rydym am i bawb deithio gyda hyder. Dyna pan, os ydych chi am deithio ar wasanaethau Trenau Trafnidiaeth Cymru, gallwch wneud cais am gymorth ymlaen llaw - nawr hyd at 2 awr cyn dechrau eich taith, unrhyw amser o'r dydd.
-
Mae ein tîm Cymorth i Deithwyr ar gael ar y ffôn 24 awr y dydd (heblaw 25 a 26 Rhagfyr), neu gallwch ddefnyddio ein proses archebu ar-lein 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos (heblaw 25 a 26 Rhagfyr). Gweler adran C Gwneud Rheilffyrdd yn Hygyrch TrC: Canllaw i Bolisïau a Gweithdrefnau.
-
Cofiwch y gallwch chi ddewis 'troi i fyny a theithio' heb drefnu cymorth ymlaen llaw, neu os ydych chi wedi prynu'ch tocyn ar-lein sydd eto i gael ei gadarnhau. Fe wnawn ni ein gorau glas i'ch cael i ben eich taith.
-
Hygyrchedd trên
Dysgwch fwy am gyfleusterau mynd ar y trên i’ch helpu i drefnu eich taith.
Cofiwch fod trenau sydd heb gyfleusterau cwbl hygyrch, gan gynnwys toiledau, yn gweithredu ar rai llwybrau. Rydyn ni’n gweithio’n galed i wella ein rhwydwaith drenau cyhoeddus, gan gynnwys darparu mwy o drenau hygyrch.