• Fyddwch chi’n fy stopio rhag teithio os na fydda i’n gwisgo gorchudd wyneb?
    • Na, ni fyddwch chi’n cael eich stopio rhag teithio am nad ydych yn gwisgo gorchudd wyneb.

  • Fydda i’n gallu cael gorchudd wyneb o’r orsaf drenau neu ar y bws?
    • Er bod y rhai o’r siopau yn y gorsafoedd trenau a bysiau ac wrth eu hymyl yn gwerthu gorchuddion wyneb, nid yw gweithredwyr trafnidiaeth yn darparu gorchuddion wyneb ar y trên.

  • Beth os byddaf yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol am beidio â gwisgo gorchudd wyneb?
    • Nid ydym yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus am unrhyw reswm, ac fel rhan o’n hymgyrch ‘Teithio'n Saffach’ rydym yn gofyn i bawb barchu ei gilydd.

      Os ydych chi’n profi unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol, rhowch wybod i un o’n cydweithwyr cyn gynted â phosib. Rydym hefyd yn parhau i weithio’n agos gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i gadw’r rhwydwaith yn ddiogel. Gallwch gysylltu â’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn uniongyrchol ar 0800 405 040 neu gallwch anfon neges destun atynt ar 61016.

  • Rydw i’n teithio mewn Tacsi – a fydd angen i fi wisgo gorchudd wyneb?
    • Bydd, fe fydd angen i chi wisgo gorchudd wyneb yn unol â’r gyfraith yng Nghymru oni bai eich bod wedi eich eithrio rhag gwneud hynny. Os oes gennych ymholiadau pellach, gwiriwch gyda’ch gweithredwr Tacsi.