• Rydw i angen cymorth wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus - a oes help ar gael?
    • Oes, mae help ar gael. Bydd cydweithwyr ar gael i roi help llaw i chi pryd bynnag y bo modd, er mwyn eich helpu i gyrraedd pen eich taith yn ddiogel.

      Er nad yw’n ofynnol i chi wneud cais ymlaen llaw, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ffonio 03333 211 202 os ydych yn bwriadu teithio ar drên, neu cysylltwch â’ch gweithredwr bysiau i drafod eich taith cyn gynted â phosibl. Gallwch ddod o hyd i’r manylion ar wefan Traveline Cymru yma.

  • Pa fesurau diogelwch sydd ar waith ar drafnidiaeth gyhoeddus?
    • Mae gennym bolisi ‘dim goddefgarwch’ o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gofynnwn i’r holl deithwyr barchu eu cyd-deithwyr a staff trafnidiaeth gyhoeddus.

      Rydym yn parhau i weithio’n agos iawn gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, sydd yna i gynnig cymorth wrth fynd i’r afael â digwyddiadau troseddol ar y rhwydwaith rheilffyrdd a helpu i addysgu teithwyr ynghylch pwysigrwydd dilyn mesurau cadw pellter corfforol.

      Gallwch dynnu sylw at unrhyw ddigwyddiad ar y rhwydwaith rheilffyrdd trwy roi gwybod yn ddiogel i aelod o staff neu drwy ffonio’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 0800 405 040 neu anfon neges destun i’r rhif 61016.

      Os cewch broblemau wrth deithio ar fws, rhowch wybod yn ddiogel i’ch gyrrwr, ac yna bydd y gyrrwr yn dilyn y protocolau sydd ar waith ac yn galw am gymorth pan fo angen.

  • Beth yw’r Gwiriwr Capasiti?
    • Bydd eich Gwiriwr Capasiti’n dweud wrthych pa drenau sy’n aml yn llawn a pha rai sydd â digon o seddi arnynt, gan eich helpu i gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pa amser yw’r amser gorau i chi deithio.

  • Pam na allwch chi ddarparu trenau neu fysiau ychwanegol?
    • Trenau

      Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio capasiti ychwanegol pryd bynnag y bo modd. Mae’r holl drenau a’r cerbydau sydd ar gael yn cael eu defnyddio yn ein gwasanaethau.

      Mae llawer o’n gwasanaethau trên angen mwy o gerbydau nag arfer er mwyn sicrhau y gellir cadw gwell pellter cymdeithasol, ac rydym angen rhywfaint mwy o amser nag arfer i lanhau popeth yn drylwyr er mwyn sicrhau ein bod yn dilyn canllawiau’r llywodraeth.

      Mae nifer ein staff yn dal i fod yn is nag arfer oherwydd absenoldebau’n gysylltiedig â covid, felly mae llai o bobl ar gael i redeg ein gwasanaethau.

       

      Bysiau

      Ar hyn o bryd mae gweithredwyr bysiau’n defnyddio capasiti ychwanegol pryd bynnag y bo modd. Maent yn rhoi blaenoriaeth i gynyddu gwasanaethau ar sail blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru:

      • cynyddu amlder y gwasanaethau pan fo’r galw’n drech na’r capasiti
      • gwella cynhwysiant cymdeithasol trwy wella hygyrchedd at swyddi a gwasanaethau
      • cyflwyno gwelliannau ar draws ein rhanbarthau a’n cymunedau
      • cynorthwyo dysgwyr i fynd i’r ysgol neu’r coleg (yn ystod y tymor ysgol/coleg)
  • Ydych chi’n trefnu bysiau yn lle trenau?
    • Rydym yn cynnig bysiau yn lle trenau pryd bynnag y bo modd.

      Hefyd, rhaid i ni gael rhai bysiau wrth gefn rhag ofn i broblemau annisgwyl godi.

  • Pam na allwch ddefnyddio mwy o gerbydau ar drenau prysur?
    • Mae diogelwch ein cwsmeriaid a’n staff yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni. Mae llawer o’n gwasanaethau trên yn defnyddio mwy o gerbydau nag arfer er mwyn sicrhau y gellir cadw gwell pellter cymdeithasol, ac rydym yn gweithio gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i wella presenoldeb diogelwch ar ein trenau.

      Rydym yn rheoli’r capasiti mewn gorsafoedd, pryd bynnag y bo modd, ond nid oes staff i’w cael ym mhob un o’n gorsafoedd. Er mwyn helpu i gadw’r rhwydwaith mor ddiogel â phosibl, gofynnwn i deithwyr chwarae eu rhan trwy ddilyn ein canllawiau Teithio’n Saffach.

      Rydym yn cadw golwg fanwl ar newidiadau yn y galw o du cwsmeriaid, yn cynnwys monitro ffilmiau CCTV, er mwyn llywio unrhyw newidiadau i wasanaethau trwy’r rhwydwaith.

  • A oes cyfleusterau arlwyo i’w cael ar drenau nawr?
    • Mae gennym drol sedd sy'n darparu ar wasanaethau dethol. Rydym hefyd yn gweithredu arlwyo llawn, gan gynnwys bwytai ar chwech o'n gwasanaethau Mark IV, sy'n rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion, yma.

       
  • A fydd toiledau ac ystafelloedd aros ar agor mewn gorsafoedd?
    • Dylai ystafelloedd aros a thoiledau fod ar agor. Dylai bod hylif golchi dwylo a hylif diheintio dwylo yno hefyd. Siaradwch â’r ddesg docynnau os oes gennych unrhyw gwestiwn.

  • Beth yw’r gwasanaeth fflecsi?
    • Mae fflecsi yn wasanaeth peilot mewn partneriaeth â chwmnïau bysiau lleol a chynghorau lleol mewn 11 ardal yng Nghymru. Mae bysiau fflecsi yn eich codi ac yn eich gollwng mewn parthau ac nid dim ond mewn safle bws, mae hyn yn aml yn nes at eich cartref a phen eich taith. Rhaid i chi archebu eich taith drwy ap fflecsi neu dros y ffôn ac yna mae’r bws yn eich codi chi ac yn codi teithwyr eraill sydd eisiau gwneud siwrneiau tebyg ar hyd y ffordd. Mae fflecsi wedi cael ei ddylunio i helpu pobl i gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethau iechyd a chyfleoedd gwaith. 

      Gallwch weld lle mae fflecsi yn gweithredu ar hyn o bryd, yma.

      I gael gwybod rhagor, ewch i fflecsi.cymru, llwytho'r ap i lawr neu ffoniwch 03002 340 300.

  • Ydy’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn dal i gynnig ei gwasanaethau?
    • I weld pa wasanaethau a gynigir yn eich ardal, cysylltwch â’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol rhwng 10:00 -16:00 ddydd Llun i ddydd Gwener, gan anfon eich ymholiad trwy e-bost i’r cyfeiriad advice@ctauk.org.

      Hefyd, cewch ragor o wybodaeth ar wefan y Gymdeithas yma.

  • Pa ffyrdd o deithio ydych chi’n eu hargymell yn lle bysiau a threnau?
    • Pryd bynnag y bo modd, rydym yn annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio llesol ar gyfer teithiau byr er mwyn helpu i leihau’r pwysau ar drafnidiaeth gyhoeddus.

      Mae’n bosibl eich bod wedi clywed y term ‘Teithio Llesol’ yn cael ei ddefnyddio - mae’n golygu cerdded neu feicio i deithio i’r gwaith, mynd i’r ysgol, mynd i’r siopau, neu fynd i orsafoedd bysiau a threnau. Mae manteision pendant o ran iechyd a lles yn perthyn i gerdded a beicio, felly byddwch yn cael eich dogn dyddiol o ymarfer corff wrth deithio.

  • Ble allaf gael help i gynllunio fy nhaith teithio llesol?
    • Gallwch gael help i gynllunio eich taith gerdded neu eich taith feic ar wefan Traveline Cymru. Hefyd, gallwch lawrlwytho ap Traveline Cymru yn rhad ac am ddim neu ffonio’r rhif rhadffôn 08004 640 000. Fel arall, mae Google Maps a Komoot yn cynnig nodweddion rhad ac am ddim ar gyfer cynllunio teithiau ar droed neu ar feic.

      Gallwch hefyd gael gwybodaeth am lwybrau teithio llesol yn eich ardal ar wefan eich Cyngor lleol - ceir manylion yma.

      I weld a ydych yn byw wrth ymyl Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, edrychwch ar wefan Sustrans.

      Ymhellach, caiff cynghorau lleol ledled Cymru eu hannog i osod cyfleusterau dros dro i hwyluso pobl i gerdded a beicio, ac mae Sustrans wedi creu adnodd i’ch helpu i weld yr hyn a roddir ar waith yn eich ardal yma.

  • Dydw i ddim yn berchen ar feic, ond hoffwn feicio - a oes unrhyw help ar gael?
    • Mae cynlluniau rhannu beiciau cyhoeddus, fel OVO Bikes, ar gael mewn nifer fach o gynghorau lleol yng Nghymru, lle gallwch logi beic i fynd â chi o a i b. I ddarganfod mwy am OVO, ewch i'w gwefan yma.

      Efallai fod cynlluniau lleol eraill ar gael yn eich ardal - edrychwch ar wefan eich cyngor lleol i gael rhagor o wybodaeth.

  • Dydy fy nghartref i ddim yn ddiogel - i ble allaf fynd i gael help yn ymwneud â thrais domestig?
    • Rydym wedi ymuno â chynllun ‘Rail to Refuge’ y DU i gefnogi Cymorth i Fenywod. Mae’r cynllun hwn yn cynnig talu am docyn trên unrhyw un sydd angen dianc rhag trais domestig yn ystod argyfwng y coronafeirws.

      Cewch ragor o wybodaeth yma.