• Does dim rhaid i fi gymudo bob diwrnod mwyach. Pa docyn yw’r un gorau i’w brynu er mwyn fy helpu i arbed arian?
    • Os ydych yn gweithio gartref yn amlach ac yn teithio’n llai aml i’r gwaith, efallai y bydd modd i chi arbed arian gyda’n tocynnau trên ‘Multiflex’. Mae’r ‘Multiflex’ yn cynnig 12 o docynnau teithio unffordd y gellir eu defnyddio yn y naill gyfeiriad neu’r llall rhwng y gorsafoedd a ddewiswch fel man cychwyn a diwedd eich taith. Mae’r tocyn hwn yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr rhan-amser a’r rhai sydd bellach yn treulio llai o amser yn gweithio yn y swyddfa.

      Mae’r ‘Multiflex’ yn cynnig 12 taith unffordd am yr un pris â 5 taith ddwyffordd, felly mae’n eithriadol o hyblyg ac yn cynnig prisiau isel iawn.

      Bydd ein tocynnau ‘Multiflex’ yn ddilys am 3 mis ar ôl eu prynu, ac maent yn gwbl ‘ddigyffwrdd’. Gallwch brynu tocynnau ‘Multiflex’ ar yr ap neu ar y wefan, a bydd eich tocynnau’n cael eu lawrlwytho’n awtomatig i gyfrif eich ap. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw rhoi eich tocyn ar waith cyn pob taith. Cewch fwy o wybodaeth yma.

      Mae nifer o weithredwyr bysiau’n cynnig tocynnau tebyg. Gwiriwch yn uniongyrchol â’ch gweithredwr bysiau pa docynnau a allai arbed arian i chi.

  • Ai ‘technoleg ddigyffwrdd’ yw’r unig ffordd o dalu am docynnau?
    • Na, ond dyma’r opsiwn a ffefrir. Pa bryd bynnag y bo modd, a wnewch chi brynu eich tocyn ar-lein neu dalu amdano gyda thechnoleg ddigyffwrdd yn y swyddfa docynnau neu pan fyddwch yn mynd ar y bws.

  • Faint ymlaen llaw y gallaf chwilio am daith?
    • Rydym yn cynghori teithwyr i wirio’r amserlenni o fewn 6 wythnos i’w hamser teithio bwriedig.

      Ar gyfer teithio ar drên
      Ar gyfer teithio ar fws

      Cofiwch wirio’r manylion cyn i chi deithio, oherwydd efallai y bydd ambell wasanaeth yn cael ei newid neu ei ganslo ar fyr rybudd.

      Ni fydd gwasanaethau rhwng Cymru a Lloegr, na gwasanaethau a gaiff eu gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru yn Lloegr, yn newid.