
Teithio’n Saffach, Cynlluniwch Ymlaen Llaw A Byddwch Yn Deithiwr Cyfrifol
Mae diogelwch a lles ein cwsmeriaid a'n staff yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni.
Cyn teithio
- Cynlluniwch eich taith. Gall rhai o'n gwasanaethau fod yn brysur yn enwedig yn ystod oriau brig, ar benwythnosau a phan fydd y tywydd yn dda. Dewch o hyd i drenau gyda gofod, ein Gwiriwr Capasiti.
- Ewch yn ddigyswllt a phrynwch eich tocyn ar ap TfW. Mae gwiriadau tocynnau ar waith.
- Peidiwch â theithio os ydych chi'n teimlo'n sâl.
Yn ystod eich taith
- Meddyliwch am wisgo gorchudd wyneb ar ein trenau ac yn adeiladau ein gorsaf.
- Cerddwch neu feiciwch ar deithiau byrrach os gallwch chi.
- Cadwch unrhyw ffenestri ar agor i helpu awyru.
- Byddwch yn barchus - nid yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dderbyniol yn unrhyw le ar ein rhwydwaith.
- Cadwch eich pellter - mae Coronafeirws yn dal yn ein cymunedau, helpwch ni i barhau i Gadw Cymru'n Ddiogel drwy gadw pellter parchus oddi wrth eraill os gallwch chi.
Teithio y tu allan i Gymru
Bydd angen i chi ddilyn y canllawiau ar gyfer Lloegr , Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gallwch weld y rheolau diweddaraf ar gyfer teithio tramor i ac o Gymru, yma.
Llai o amserlenni bysiau a rheilffyrdd
Mae gwasanaethau'n rhedeg amserlen lai
Os ydych chi'n teithio ar fws, edrychwch ar wefan eich gweithredwr bysiau lleol i gael mwy o wybodaeth.
Gallwch wirio eich gweithredwyr lleol yma
Mae ein gwasanaethau rheilffordd yn rhedeg ar amserlen lai. Os ydych chi'n teithio ar drên, defnyddiwch ein gwiriwr capasiti