Penwythnos Cwrs Hir Cymru
Mae Penwythnos Cwrs Hir Cymru yn un o wyliau aml-chwaraeon mwyaf Ewrop, a gynhelir bob blwyddyn yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro. Dros bedwar diwrnod, mae athletwyr a chefnogwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiadau nofio, beicio a rasys rhedeg, wrth i’r dref ddod yn fyw gydag adloniant ac awyrgylch bywiog.
P'un a ydych chi'n cymryd rhan neu'n cymeradwyo o'r cyrion, mae teithio ar y trên yn ffordd hawdd a chynaliadwy o gyrraedd yno.
Cyrraedd Penwythnos y Cwrs Hir
Mae gan Ddinbych-y-pysgod gysylltiadau rheilffordd da, sy'n ei gwneud hi'n hawdd osgoi cau ffyrdd a chyfyngiadau parcio yn ystod y digwyddiad.
Rydym yn rhoi gwasanaethau ychwanegol ar waith er mwyn cynyddu capasiti ac yn diwygio gwasanaethau dros gyfnod Penwythnos y Cwrs Hir i'ch helpu i deithio'n fwy cyfforddus.
Gwasanaethau a newidiadau ychwanegol (25, 26 a 29 Mehefin)
I gefnogi'r digwyddiad, rydym wedi atgyfnerthu gwasanaethau ac wedi ychwanegu cysylltiadau uniongyrchol â Dinbych-y-pysgod, a fydd yn cynnwys lleoedd ychwanegol i feiciau ar ein trenau Teithio Llesol.
Mae gwelliannau allweddol yn cynnwys:
- Gwasanaethau penodol wedi'u hymestyn neu eu dargyfeirio i ddechrau neu orffen yn Ninbych-y-pysgod.
- Mwy o gerbydau ar deithiau allweddol.
- Gwasanaethau ychwanegol rhwng Abertawe, Caerfyrddin a Dinbych-y-pysgod.
- Cerbydau Teithio Llesol wedi’u hychwanegu i ddarparu mwy o le ar gyfer beiciau ac offer.
Mae'r newidiadau hyn wedi'u cynllunio i wneud teithio i'r digwyddiad ac oddi yno yn rhwyddach, yn enwedig yn ystod oriau brig.
Arbedwch arian ar eich taith
Tocyn ‘Advance Flex Max’
Byddwch yn hyblyg ac arbedwch arian gyda'n tocyn dwyffordd hyblyg iawn ‘Advance Flex Max’ am bris gostyngol.
- Archebwch eich taith i Dinbych-y-pysgod a gallwch ddychwelyd ar unrhyw wasanaeth o fewn 5 diwrnod
- Osgowch y gost o Docyn Dwyffordd Unrhyw Bryd arferol
- Perffaith ar gyfer mynychwyr y digwyddiad a gwylwyr
Ar gael ar deithiau dethol. Gwiriwch cyn teithio.
TfW Advance Flex Max | National Rail
Tocynnau Teulu
Ydych chi’n manteisio ar y cyfle i fwynhau diwrnod gyda'r teulu? Mae ein tocyn Teulu yn cynnig gwerth gwych am arian, wrth i ddau o blant gael teithio am ddim gyda phob oedolyn sy'n talu am docyn.
Manteisiwch ar y cyfle
Cynnig Diwrnodau Allan - Bythynnod ‘Pembrokeshire Coastal Cottages’
Trowch eich ymweliad ar gyfer Penwythnos y Cwrs Hir yn wyliau hirach.
Cewch £50 oddi ar bris llawn eich arosiadau gyda Pembrokeshire Coastal Cottages pan gyrhaeddwch ar y trên.
Mae telerau llawn a manylion archebu ar gael ar wefan Coastal Cottages: Travel by train and receive £50 off your Pembrokeshire holiday
Cynlluniwch eich taith
Rydym yn disgwyl i drenau fod yn brysur yn ystod Penwythnos y Cwrs Hir, felly os gwelwch yn dda:
- Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith
- Gwiriwch eich trên cyn teithio
- Ystyriwch deithio y tu allan i oriau brig lle bo modd
Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau
Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.