
Rydym yn adeiladu canolbwynt trafnidiaeth integredig yng nghanol Caerdydd i wella cysylltiadau rhwng bysiau, trenau a theithio llesol er mwyn annog teithio cynaliadwy.
Blaenoriaethau allweddol
Rheilffordd
Rydym yn gwella gorsaf Caerdydd Canolog i liniaru gorlenwi a thagfeydd, gwella capasiti ar ddiwrnodau digwyddiadau ac ar gyfer twf teithwyr yn yr hirdymor. Bydd y gwelliannau’n creu cyfnewidfa amlfodd a fydd yn brif ganolbwynt trafnidiaeth i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn orsaf Metro allweddol. Bydd y gyfnewidfa well yn annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, yn gwella ansawdd yr aer ac yn lleihau allyriadau carbon.
Bws
Yn agor yn haf 2023, mae Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn orsaf fysiau ganolog newydd sbon gyda 14 o gilfachau bysiau ac amrywiaeth o gaffis a siopau.
Bydd y gyfnewidfa yn gwella cysylltiadau ac yn helpu pobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy.
Teithio llesol
Y cam cyntaf fydd darparu 1,000 o leoedd parcio ansawdd uchel i feiciau gyda'r nod o gynyddu nifer y lleoedd i 4,000, yn y tymor hwy.
Yn rhan o seilwaith teithio llesol newydd cyffrous Caerdydd, bydd y mannau hyn yn helpu pobl i deithio’n fwy cynaliadwy ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Trafnidiaeth integredig
Bydd trafnidiaeth integredig yn y maes hwn ar sawl ffurf, gwella lleoedd parcio beiciau yn y canolbwynt trafnidiaeth hwn, gwell ffyrdd o ganfod y ffordd a gwybodaeth i newidiadau i’r seilwaith ffisegol gan gynnwys diogelu rhag y tywydd.
Prosiectau tymor hwy
Rheilffordd
Bydd ein huchelgeisiau tymor hwy ar gyfer rheilffyrdd yng Nghaerdydd Canolog yn canolbwyntio ar integreiddio â Phrif Reilffordd De Cymru a’r cyswllt â Bae Caerdydd.
Trafnidiaeth integredig
Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Caerdydd i integreiddio teithio ar fysiau a thrên â theithio llesol (cerdded a beicio) i alluogi pobl i wneud teithiau cyflawn gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus p'un a ydynt yn byw'n lleol neu'n ymweld â'r ddinas.