Ewch ar daith hudolus
Mae cymaint i'w ddarganfod ar draws ein rhwydwaith dros gyfnod yr Ŵyl eleni a gall ein trenau fynd â chi yno. P'un a ydych chi'n cynllunio diwrnod llawn hwyl yr ŵyl yn crwydro’r marchnadoedd Nadolig, yn bwriadu gweld sioe Nadoligaidd yn y theatr neu’n dymuno treulio amser gwerthfawr gyda ffrindiau a theulu, prynwch eich tocynnau trên Advance cyn eich taith heb orfod talu unrhyw ffioedd archebu pan fyddwch chi'n archebu'n uniongyrchol gyda ni.
Os oes angen ysbrydoliaeth arnoch, rydym wedi creu rhestr o rai o'r profiadau gorau ar hyd a lled ein rhwydwaith. Methu gweld eich ffefryn chi? Beth am roi gwybod i ni ble rydych chi'n hoff o fynd dros gyfnod yr ŵyl drwy ein tagio ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
De Cymru
Caerdydd
O 13 Tachwedd i 23 Rhagfyr, gallwch ddarganfod Marchnad Nadolig Caerdydd. Dewch o hyd i anrhegion wedi'u gwneud â llaw, danteithion tymhorol a bwyd stryd blasus o'r nifer o stondinau unigryw sydd yno. Peidiwch â methu’r Ŵyl y Gaeaf boblogaidd sydd wedi’i gwasgaru ar draws Lawnt Neuadd y Ddinas a Chastell Caerdydd.
Gorsaf agosaf: Caerdydd Canolog
Gorllewin Cymru
Abertawe
O 29 Tachwedd i 22 Rhagfyr, bydd Stryd Rhydychen yn gartref i farchnad stryd Nadolig Abertawe. Dewch o hyd i ddwsinau o stondinau sy'n cynnig anrhegion wedi'u gwneud â llaw, bwydydd blasus ac addurniadau Nadolig unigryw.
Gorsaf agosaf: Abertawe, taith 16 munud ar droed
Dinbych-y-pysgod
Cofleidiwch y Nadolig wrth y môr yn seremoni goleuo goleuadau Nadolig Dinbych-y-pysgod ddydd Sadwrn 29 Tachwedd. Archwiliwch y farchnad Nadolig sy'n llawn anrhegion lleol, mwynhewch gerddoriaeth fyw ledled y dref a pheidiwch â methu uchafbwynt y dathliadau - Siôn Corn yn cyrraedd yn ei holl ysblander ar feic cwad yr RNLI.
Gorsaf agosaf: Dinbych-y-pysgod
Canllaw cyrchfannau: Dinbych-y-pysgod
Gogledd Cymru
Betws-y-Coed
Rhwng 29 a 30 Tachwedd, mae'r pentref prydferth hwn yn cynnal marchnad Nadolig hudolus sy’n arddangos y crefftwyr a'r cynhyrchwyr lleol gorau o Eryri a'r cyffiniau. Dewch o hyd iddynt yng Ngwesty'r Royal Oak - dim ond 3 munud ar droed o'r orsaf.
Gorsaf agosaf: Betws-y-Coed
Canolbarth Cymru
Llanfair-ym-Muallt
O 24 i 25 Tachwedd, bydd y Ffair Aeaf yn agor i gynnig y cyfle perffaith i siopwyr brynu anrhegion unigryw a gwreiddiol. Yn ogystal â’r siopa, mwynhewch raglen fywiog o ddigwyddiadau gan gynnwys cystadlaethau da byw, cigyddiaeth, crefftau cartref a chelf flodau.
Gorsaf agosaf: Llanfair-ym-Muallt
Y Gororau
Birmingham
Beth am brofi’r farchnad Nadolig Almaenig fwyaf y tu allan i'r Almaen ac Awstria yma yn y DU? O 1 Tachwedd tan 24 Rhagfyr, mwynhewch yr hwyl ym Marchnad Frankfurt Birmingham.
Gorsaf agosaf: Birmingham New Street
Canllaw cyrchfannau: Birmingham
Caer
Ar 21 Tachwedd, gwyliwch wrth i strydoedd hanesyddol Caer oleuo gyda Gorymdaith 12 Diwrnod y Nadolig. Tra byddwch chi yno, peidiwch â methu’r Farchnad Nadolig hudolus sy'n digwydd yn Sgwâr Neuadd y Dref, sydd ar agor o 19 Tachwedd tan 22 Rhagfyr.
Gorsaf agosaf: Caer
Manceinion
Yn enwog am ei strydoedd trefol bywiog, mae Manceinion yn trawsnewid yn le hudolus Nadoligaidd adeg y Nadolig. O 7 Tachwedd tan 22 Rhagfyr, bydd marchnadoedd Nadolig Manceinion yn cynnig bwyd, diod a chyfleoedd siopa Nadoligaidd yn stondinau marchnad y cabanau sgïo yng Ngerddi Piccadilly. Beth am i chi fynd i weld yr hud a lledrith gyda’ch llygaid eich hun?
Gorsaf agosaf: Manceinion Piccadilly
Canllaw cyrchfannau: Manceinion
Amwythig
Ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr, bydd Carchar Amwythig yn cynnal ei drydedd Farchnad Nadolig flynyddol - a thaith 3 munud ar droed ydyw o’r orsaf drenau. Mwynhewch brofiad Nadoligaidd a gewch mewn llyfrau stori ym Marchnad Nadolig Ffermwyr Amwythig, sy’n llenwi’r Sgwâr ar 19 a 20 Rhagfyr gyda stondinau bwyd Nadoligaidd, cerddoriaeth fyw a digonedd o hwyl yr ŵyl.
Gorsaf agosaf: Amwythig