Nodyn croeso’r Cadeirydd David Beer

Submitted by positiveUser on

Nodyn croeso

Fel cadeirydd Panel Cynghori newydd Trafnidiaeth Cymru, rwy'n edrych ymlaen at y drafodaeth graff a chyfoethog a ddaw yn sgil ei aelodau. Mae TrC wedi ymrwymo i wella'r rhwydwaith reilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau ac maent yn gweithio'n galed i sicrhau eu bod yn gwrando ar ystod o gynulleidfaoedd a grwpiau cynrychiadol i gyflawni rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol gynhwysol, atyniadol a hygyrch.

Edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau'r panel yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y profiad ar y cyd a'r gwahanol safbwyntiau rydyn ni'n eu dwyn ynghyd yn hanfodol, yn enwedig wrth i ni geisio cynghori a chefnogi TfW yn ystod yr amseroedd heriol hyn - ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n dod i ddibynnu arnyn nhw o fewn a thu allan i'r sesiynau panel.

Rwy'n gobeithio y bydd y Panel Cynghori yn rym ar gyfer newid cadarnhaol, er mwyn sicrhau bod gan genedlaethau'r presennol a'r dyfodol reilffordd sy'n arwain y byd ar fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.

 

David Beer

Cadeirydd Annibynnol, Panel Cynghori TrC