Ynglŷn ag Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru
Gwybodaeth i aelwydydd a wahoddwyd i gymryd rhan yn Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru
Cynhelir Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru gan Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) ar ran Trafnidiaeth Cymru. Bydd yr arolwg yn casglu data ar agweddau a thueddiadau teithio unigolion sy’n byw yng Nghymru. Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau trafnidiaeth a theithio a gwneud penderfyniadau ynglŷn â ffyrdd o gyflenwi gwasanaethau.
Bob blwyddyn caiff oddeutu 15,000 o aelwydydd ledled Cymru eu dethol ar hap i gymryd rhan ar-lein, dros y ffôn neu drwy gyfweliad wyneb yn wyneb yn eu cartrefi.
Pwy all gymryd rhan?
Gall yr arolwg gael ei gwblhau gan aelwydydd a ddetholwyd yn unig. Os gwahoddwyd eich aelwyd chi i gymryd rhan, gall hyd at ddau oedolyn 16 oed a throsodd ei gwblhau ar-lein neu gall un oedolyn 16 oed a throsodd gymryd rhan dros y ffôn neu mewn cyfweliad wyneb yn wyneb.
Llythyron gwahodd
Os detholwyd eich cyfeiriad chi i gymryd rhan yn yr arolwg, byddwch yn derbyn y llythyr a’r daflen gwestiynau cyffredin canlynol.
Rhodd i’ch diolch am gwblhau’r arolwg
I’ch diolch am gymryd rhan, byddwch yn derbyn taleb gwerth £10 ar gyfer Love2Shop. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â thalebau Love2Shop gan gynnwys sut i’w hactifadu a’u rheoli yn ogystal â gwybodaeth am le y gallwch wario’ch taleb yn www.love2shop.co.uk.
Dydw i ddim yn dymuno cymryd rhan
Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol, ond rydym yn gobeithio y byddwch yn cymryd rhan er mwyn i bob math o unigolion ledled Cymru gael eu cynrychioli yn y canlyniadau. Ni allwn ddewis unrhyw un yn eich lle chi.
Os nad ydych am gymryd rhan, gallwch adael inni wybod naill ai drwy ffonio llinell gymorth NatCen ar 0800 652 9296 neu e-bostio WNTS@natcen.ac.uk. Darparwch eich cyfeirnod (ar eich llythyr), llinell gyntaf eich cyfeiriad, a’ch cod post er mwyn inni allu dod o hyd i’ch manylion yn hawdd a sicrhau nad ydych yn derbyn unrhyw gyfathrebiadau pellach ynghylch yr arolwg.
Sut alla i sicrhau bod yr holwr yn ddilys?
Mae’r holl holwyr sy’n gweithio ar Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru’n gweithio i NatCen.
Maent yn cario cerdyn adnabod sy’n dangos y canlynol:
- enw
- llun
- rhif adnabod
Os hoffech wirio manylion holwr, ffoniwch linell gymorth arolwg NatCen ar 0800 652 9296.
Cyfrinachedd ac Amddiffyn Data
Mae’r astudiaeth hon yn gyfrinachol a chaiff unrhyw fanylion personol ei gadw’n ddiogel ac yn unol â’r Ddeddf Amddiffyn Data. Ni fyddwch yn adnabyddadwy yn seiliedig ar ganlyniadau’r arolwg a chaiff eich atebion eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Ni fydd yn bosib eich adnabod yn bersonol o unrhyw adroddiadau’n seiliedig ar y canlyniadau.
Ni chaiff eich manylion eu defnyddio at ddibenion marchnata.
Am ragor o wybodaeth o ran sut yr ydym yn defnyddio, rheoli a storio’r wybodaeth a gesglir, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Cysylltu data
Mae Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) yn uned ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae cysylltu gwybodaeth o arolygon a chronfeydd data ar draws Cymru wrth wraidd y gwaith maent yn ei wneud er mwyn i ymchwilwyr achrededig ei defnyddio ar gyfer prosiectau cymeradwy.
Bydd atebion dienw ymatebwyr Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yn cael eu cysylltu â ffynonellau data eraill sydd gan fanc data SAIL.
Mae enwau, dyddiadau geni, rhyw a chodau post cartrefi heb eu cynnwys yn y data cysylltiedig sydd ar gael i ymchwilwyr ond caiff eu defnyddio gan drydydd parti dibynadwy er mwyn cysylltu data’r arolwg dienw â chofnodion eraill ym manc data SAIL.
Gall ymatebwyr optio allan o ganiatáu i’w data cael eu cysylltu. Gellir gwneud hyn yn ystod neu wedi’r arolwg drwy gysylltu â thîm Arolwg Teithio Cenedlaethol Trafnidiaeth Cymru ar 03333 211 202 neu arolwgteithio@trc.cymru.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch y broses o gysylltu data yn y dogfennau isod.
Cysylltu neu wneud cwyn
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru neu os hoffech wneud cwyn, gallwch gysylltu â NatCen ar 0800 652 9296 neu WNTS@natcen.ac.uk.
Fel arall, gallwch gysylltu â Trafnidiaeth Cymru ar 03333 211 202 neu arolwgteithio@trc.cymru.