Datgarboneiddio a cherbydau trydan

Ar hyn o bryd, trafnidiaeth sy’n gyfrifol am 17% o allyriadau carbon Cymru. Bydd lleihau’r rhain yn hanfodol i Gymru chwarae ei rhan i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

 

Beth yw datgarboneiddio a sut byddwn ni’n ei gyflawni

Mae datgarboneiddio trafnidiaeth yn golygu lleihau neu ddileu’r allyriadau carbon rydyn ni’n eu creu wrth deithio. I wneud hyn, bydd angen i ni adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth mwy gwyrdd a chynaliadwy yng Nghymru, fel y nodir yn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth. Dyma rai o’r camau rydym yn eu cymryd i gyflawni hyn:

  • Trydaneiddio 172km o gledrau fel rhan o’n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y Metro yn Ne Cymru.
  • Cyflwyno trenau mwy newydd sy’n llygru llai ar draws ein rhwydwaith rheilffyrdd.
  • Cyflwyno mwy o fysiau trydan dim allyriadau yn ein fflyd TrawsCymru, gan ddisodli cerbydau disel sy’n llygru.
  • Mae integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus fel bysiau a threnau a chysylltu’r rhain â llwybrau cerdded, beicio a teithio ar olwynion yn ei gwneud yn haws i bobl wneud siwrneiau cyfan yn gynaliadwy.
  • Gweithio gyda’n partneriaid i adeiladu llwybrau cerdded, beicio a theithio ar olwynion gwell a mwy hygyrch ar gyfer siwrneiau byrrach.

 

Darllen mwy

 

Adeiladu rhwydwaith gwefru cerbydau trydan Cymru

Nid yw bob amser yn bosibl teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar droed, ar olwynion neu ar feic, a bydd ceir trydan yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o leihau llygredd ac allyriadau carbon o drafnidiaeth.

Rydyn ni’n cyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer rhwydwaith o bwyntiau gwefru cyflym sy’n galluogi cerbydau trydan fynd ar deithiau hirach. Mae hyn yn cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan bob 25 milltir ar draws ein Rhwydwaith Ffyrdd Strategol ac ym meysydd parcio gorsafoedd rheilffordd, gan wneud teithiau pellter hir yn haws ac yn fwy ymarferol.

Y nod sydd yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yw y bydd pawb erbyn 2025 sy’n defnyddio ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallant gael at seilwaith gwefru cerbydau trydan ar yr adeg ac yn y man lle y mae arnynt ei angen.

 

Darllen mwy